Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae’n bleser gennyf roi gwybod i’r aelodau mai Dan Stephens sydd wedi ei benodi’n Brif Gynghorydd Tân ac Achub newydd Cymru.
Mae gan y Prif Gynghorydd Tân ac Achub rôl hanfodol o ran helpu Gweinidogion Cymru a swyddogion i ymdrin â materion sy’n ymwneud â pharodrwydd, perfformiad, strwythur, a threfniadau gweithredol y tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru. Y Prif Gynghorydd sydd hefyd â’r cyfrifoldeb cyfreithiol dros arolygu diogelwch tân ar holl safleoedd y Goron, nad ydynt yn rhai milwrol, yng Nghymru, a chaiff ei benodi i’r rôl honno gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
Dechreuodd Dan ar ei ddyletswyddau llawn fel Prif Gynghorydd Tân ac Achub ar 12 Tachwedd, a ddoe cafodd y Gorchymyn ei wneud gan y Cyfrin Gyngor sy’n rhoi statws Arolygydd iddo. Mae Dan yn dod â chyfoeth o brofiad i’w rôl newydd. Mae’r profiad hwnnw o weithio yn y Gwasanaeth Tân yn ymestyn yn ôl 30 o flynyddoedd; bu’n Brif Swyddog Tân Awdurdod Tân ac Achub Glannau Merswy, a hefyd yn Brif Weithredwr Brigâd Dân Fetropolitan Melbourne yn Awstralia. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i gydweithio ag ef.
Un o brif flaenoriaethau Dan fydd sicrhau ein bod ni a’n Gwasanaethau Tân ac Achub yn dysgu’r gwersi o Gam 1 Ymchwiliad Cyhoeddus Tŵr Grenfell. Er bod llawer o argymhellion yr Ymchwiliad yn benodol ar gyfer Brigâd Dân Llundain, maent yr un mor berthnasol i’r holl Wasanaethau Tân ac Achub eraill. Rwyf wedi gofyn i Dan weithio gyda’n Prif Swyddogion Tân i ddarparu sicrwydd llawn bod yr argymhellion hynny yn cael sylw ar unwaith mewn modd effeithiol.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.