Bydd cyllid gan Lywodraeth Cymru i gynghorau lleol yng Nghymru yn fwy na £6biliwn y flwyddyn nesaf yn ôl cyhoeddiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James, heddiw.
Fel rhan o'r setliad llywodraeth leol a gyhoeddwyd ochr yn ochr â Chyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21, bydd awdurdodau lleol yn derbyn bron i £4.5biliwn mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar gyflenwi gwasanaethau allweddol - sy'n gynnydd o £184miliwn o'i gymharu â 2019-20, ar sail tebyg at ei debyg.
Bydd y cyllid cyfalaf cyffredinol heb ei neilltuo ar gyfer 2020-21 yn £198miliwn (gan gynnwys £20miliwn ar gyfer grant atgyweirio priffyrdd cyhoeddus) - sy'n gynnydd o £15miliwn o’i gymharu â'r hyn a gyhoeddwyd yng nghyllideb derfynol Cymru y llynedd.
Mae'r cynnydd mewn cyllidebau cyfalaf yn ystod y tair blynedd ddiwethaf yn galluogi llywodraeth leol i fuddsoddi i gynyddu'r cyflenwad tai, a fydd yn lleihau'r pwysau ar gyllidebau awdurdodau lleol ac ar wasanaethau digartrefedd. Bydd hefyd yn galluogi cynghorau i ddechrau ymateb i'r angen i ddatgarboneiddio ar frys, yn sgil yr argyfwng hinsawdd sydd wedi'i ddatgan gan Lywodraeth Cymru a sawl cyngor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn gyffredinol, mae'r setliad yn cynrychioli cynnydd o 4.3% ar sail tebyg at ei debyg o'i gymharu â'r flwyddyn bresennol. Ni fydd unrhyw awdurdod yn derbyn cynnydd is na 3% mewn cyllid, a'r cynnydd uchaf fydd 5.4%.
Mae dyraniadau penodol yn cynnwys:
- £2.4miliwn ar ben yr hyn a roddwyd yn setliad 2019-20 i awdurdodau ddarparu rhyddhad ardrethi disgresiynol i fusnesau lleol a thalwyr ardrethi eraill er mwyn ymateb i faterion lleol penodol;
- Yn unol â ffocws y Llywodraeth ar wrthsefyll effeithiau tlodi, mae Gweinidogion unwaith eto yn darparu £244miliwn ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Y llynedd, cefnogwyd tua 280,000 o aelwydydd incwm isel gan y Cynllun, ac ni fu'n rhaid i 220,000 o'r rhain dalu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Yn 2018-19, roedd y cymorth a roddwyd i aelwydydd yn tua £940 y flwyddyn ar gyfartaledd;
- Parhau i ddarparu cyllid ar gyfer cynigion y Gweinidogion am feini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim, gan ystyried bod Credyd Cynhwysol yn dal i gael ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU. Bydd hyn yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol i ddiwallu'r costau sy'n gysylltiedig â'r trothwy arfaethedig a mesurau diogelu yn ystod y cyfnod trosiannol.
Yn ogystal â hyn bydd llywodraeth leol yn cael bron i £1biliwn mewn refeniw a bron i £450miliwn mewn arian cyfalaf ar gyfer grantiau Llywodraeth Cymru penodol yn 2020-21.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid i helpu llywodraeth leol i ddileu taliadau am gladdu plant.
Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:
Mae Llywodraeth Leol yn darparu gwasanaethau hanfodol i bawb yng Nghymru, gan gynnwys rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae llywodraeth leol gadarn yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus integredig o ansawdd da, mewn ffordd effeithiol, i gymunedau ar draws Cymru.
Yn erbyn y cyfyngiadau sy'n parhau a'r diffyg sicrwydd hirdymor gan Lywodraeth y DU o ran cyllideb Llywodraeth Cymru, mae'n bleser gennyf fedru cynyddu'r cyllid refeniw, a chynyddu refeniw ardrethi annomestig, i roi cyllid ychwanegol o £184miliwn i awdurdodau lleol yn 2020-21, ar sail tebyg at ei debyg.
Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn cydnabod bod llywodraeth leol, ynghyd ag eraill, yn bartner hanfodol inni yn ein cenhadaeth genedlaethol i wella addysg, darparu'r gwasanaethau gofal cymdeithasol y mae ein cymunedau eu hangen, trechu tlodi, cyflawni newid sylweddol mewn tai cymdeithasol, a chreu cymunedau lleol llewyrchus a chynaliadwy.
Er mai'r cynghorau lleol sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd a fydd yn penderfynu sut i ddefnyddio'r cyllid heb ei neilltuo yn seiliedig ar flaenoriaethau ac anghenion lleol, mae'r cynnydd mewn cyllid yn adlewyrchu'r blaenoriaethau a rennir gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol, sef buddsoddi mewn addysg a gofal cymdeithasol.
Mae'r setliad yn cydnabod y costau cynyddol y mae cynghorau yn eu hwynebu mewn ysgolion o ganlyniad i newidiadau technegol mewn pensiynau gan Lywodraeth y DU a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i roi hwb i gyflogau athrawon. Mae hefyd yn cyfrannu at ddiwallu costau cynyddol darparu gofal cymdeithasol i bobl o bob oed.