Un o’r tîm yn egluro sut yr ydym yn gweithredu Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Rydym yn gyfrifol am gasglu a rheoli TGT ar ran Llywodraeth Cymru. Ac rydym yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar beth o’r gwaith yma. Yma mae un o aelodau’n tîm, Jenna Powell, yn egluro mwy am rôl y tîm o ran codi refeniw i Gymru.
Dywedwch wrthym am eich rôl
Fi yw prif weithiwr achos technegol TGT yn y tîm gweithrediadau. Rwy'n rheoli 2 reolwr cysylltiadau cwsmeriaid sy'n gweithio yng Ngogledd a De Cymru. Gyda'n gilydd, rydym yn cefnogi 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi cofrestredig Cymreig sydd, gyda'i gilydd, yn ymwneud â 23 safle tirlenwi cofrestredig yng Nghymru.
Dywedwch fwy wrthym am rôl eich tîm
Rydym yma i helpu gweithredwyr safleoedd tirlenwi yng Nghymru i dalu'r swm iawn o TGT ar yr amser iawn. Cyn i ni ddechrau gweinyddu'r dreth, aethom i ymweld â phob safle er mwyn cwrdd â'u timoedd. Gwnaethom egluro ein system dreth ddigidol newydd er mwyn eu helpu i ffeilio ffurflenni treth.
Nawr rydym yn cydweithio â nhw o ddydd i ddydd er mwyn eu helpu gydag unrhyw gwestiynau. Mae hyn yn cynnwys eu helpu gyda cheisiadau am ryddhadau treth; barnau treth, ymholiadau cyffredinol a ffeilio ffurflenni treth chwarterol.
Sut ydych chi'n gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru?
Gan ddefnyddio pwerau yn neddfwriaeth Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (DCRhT), sy'n ein galluogi i gasglu a rheoli TGT yng Nghymru, rydym yn wedi dirprwyo rhai swyddogaethau i Gyfoeth Naturiol Cymru.
Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru dîm TGT sy’n cynnwys arweinydd tîm a dau aelod arall wedi eu lleoli yn Nhrefynwy a Bangor. Maent yn eistedd yn weithredol ar wahân i fusnes craidd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Sut mae'r berthynas yn gweithio?
Mae aelodau ACC a Chyfoeth Naturiol Cymru yn aml yn gweithio gyda'i gilydd, gan gyfuno arbenigedd a dealltwriaeth y sector gwastraff sydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru i’w gynnig gyda'n harbenigedd treth ni. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer cefnogi dull ACC o reoli a chasglu treth. Er enghraifft, drwy weithio gyda'n gilydd, rydym wedi gallu gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth, fel yr eglurwyd yn ein Cynllun Corfforaethol o dan 'Ein Dull o Weithredu'.
Sut mae eich gwaith yn cyd-fynd ag agenda ehangach Llywodraeth Cymru?
Gall TGT helpu i newid ymddygiad. Gall helpu i annog mwy o atal, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer gwastraff ac felly leihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Mae hyn yn helpu i gefnogi strategaeth 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' Llywodraeth Cymru, sy'n hyrwyddo dull o ymdrin â gwastraff yng Nghymru sy'n fuddiol i'n hamgylchedd, ein heconomi a'n cymunedau.
Beth ydych chi'n ei hoffi fwyaf am y rôl?
Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, gwnaethom gasglu a rheoli TGT o £44 miliwn trwy weithio'n agos gyda gweithredwyr safleoedd tirlenwi. Rwy'n teimlo'n falch o weithio mewn sefydliad lle bydd yr arian yr ydyn ni'n helpu i'w godi, yn y pen draw, yn helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.