Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Caiff y pumed adroddiad blynyddol gan Weinidogion Cymru ar gyflawni a gweithredu Rhan 2 (Cyllid) o Ddeddf Cymru 2014 ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.
O dan adran 23 o'r Ddeddf, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru adrodd bob blwyddyn ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni a gweithredu’r darpariaethau o dan Ran 2 o’r Ddeddf, hyd at flwyddyn ar ôl i'r darpariaethau terfynol gael eu rhoi ar waith.
Mae Rhan 2 o Ddeddf Cymru 2014 yn darparu ar gyfer datganoli cyfres o bwerau cyllidol i Gymru. Mae’r rhain yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar gyfer trethi Cymreig ar drafodiadau tir a gwarediadau tirlenwi, ac i osod Cyfraddau Treth Incwm yng Nghymru. Hefyd mae’n galluogi Llywodraeth Cymru i gynnig trethi Cymreig newydd, yn amodol ar gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dau Dŷ’r Senedd.
Mae’r adroddiad diweddaraf yn disgrifio’r cynnydd a wnaed yn ystod 2019, gan gynnwys cyflwyno Cyfraddau Treth Incwm yng Nghymru ar 6 Ebrill.
Mae’r adroddiad ar gael yma.