Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £30,000 mewn busnes ym Mlaenau Gwent sy'n cynhyrchu rhannau plastig wedi'u mowldio, a fydd yn creu swyddi ac yn diogelu swyddi eraill.
Mae JC Moulding Limited, a gafodd ei sefydlu yn 2015, yn un o'r ychydig gwmnïau yn y DU sy'n gallu adeiladu mowldiau a gweithgynhyrchu rhediadau isel o ran nifer yn ôl y galw, gan arbed costau gweithgynhyrchu ymlaen llaw sy'n gallu bod yn sylweddol.
Ar ôl cyflwyno cais am gyllid, bydd JC Moulding Limited yn derbyn y buddsoddiad o £33,000 gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gynllun ymestyn ehangach, a fydd yn golygu ei fod yn cynyddu capasiti ac yn aildrefnu ei gyfleuster cynhyrchu i wella ansawdd cynnyrch a pherfformiad o ran cyflawni.
Mae'r cwmni wedi recriwtio chwe aelod o staff drwy Twf Swyddi Cymru, gan helpu’r staff i ennill cymwysterau NVQ drwy'r Rhaglen Recriwtiaid Newydd, a bydd yr hwb ariannol yn creu saith swydd ac yn diogelu pedair swydd arall.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:
"Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r busnes uchelgeisiol hwn, sydd wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac sy'n darparu swyddi o ansawdd da yn yr ardal.
"Heb gamau gweithredu Llywodraeth Cymru, byddai JC Moulding Limited wedi gorfod is-gontractio gwaith cynhyrchu ar gyfer rhai gwerthiannau ar hyn o bryd a holl werthiannau'r dyfodol i gwmni yn Lloegr, gan roi swyddi mewn perygl a'i adael heb fod yn gallu ymestyn ei weithrediadau.
"Mae'r buddsoddiad yn dangos ymhellach ein bod yn benderfynol o sicrhau ffyniant i bawb, gan rymuso pob un o'n rhanbarthau i fod yn fwy cynhyrchiol. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r cyllid yn helpu JC Moulding Limited i gyflawni ei uchelgeisiau.
Dywedodd Philip Marshall, cyfarwyddwr JC Moulding Limited:
"Rydym yn croesawu cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer JC Moulding Limited sydd wedi gweld twf o ran gwerthiant o dros 35 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ddiweddar rydym wedi creu saith swydd newydd a byddwn yn creu 5000 troedfedd sgwâr ychwanegol fel gofod cynhyrchu newydd ar ffurf ffatri i gynnwys y capasiti mowldio a'r gofod storio mewn warws newydd.
"Rydym ar y trywydd cywir i weld 15 y cant o gynnydd ychwanegol mewn gwerthiant yn ystod 2019 a byddwn yn creu pedair swydd grefftus newydd eleni fel rhan o'r cynllun ehangu hwn.
"Ein bwriad yw ehangu gwerthiant yn gyflym mewn marchnadoedd allforio yn Ewrop a'r UDA gan barhau i adeiladu marchnadoedd sefydledig yn y DU ar yr un pryd.
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth i gefnogi cwmnïau o Gymru i gynnal a thyfu eu busnesau gydag amrywiaeth o gymorth o gynllunio busnes a chyllid i adnoddau dynol a defnyddio adnoddau’n effeithlon. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Busnes Cymru neu drwy gysylltu â 03000 6 03000.