Manylion cofrestriadau a chymwysterau myfyrwyr ar gyfer Medi 2018 i Awst 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Myfyrwyr mewn addysg uwch
Gwybodaeth am y gyfres:
Cofrestriadau addysg uwch gan fyfyrwyr yng Nghymru
- Yn 2018/19, fe gynyddodd nifer y myfyrwyr o Gymru a gofrestrodd mewn Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) yn y Deyrnas Unedig 2.6% o 96,780 yn 2017/18 i 99,310, gan ddod â’r gostyngiad a welwyd dros y chwe blynedd ddiwethaf i ben.
- Roedd 81,105 o’r myfyrwyr israddedig o Gymru, sy’n ychydig o gynnydd ers 2017/18 (1.2%).
- At ei gilydd roedd y cynnydd cyffredinol yn deillio o gynnydd yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig o Gymru; yn 2018/19 gwelwyd cynnydd am yr ail flwyddyn yn olynol, o 16,665 i 18,200 (9.2%).
- Roedd 20,790 o fyfyrwyr israddedig rhan-amser o Gymru yn SAUau y DU yn 2018/19 – sef cynnydd o 825 (4.1%), yn dilyn y gostyngiad a welwyd dros chwe blynedd.
- Am bob dau o ddynion a oedd wedi cofrestru mewn prifysgol, roedd tair o fenywod.
- Y grŵp pwnc mwyaf poblogaidd oedd Pynciau Perthynol i Feddygaeth, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain yn gofrestriadau nyrsio.
Cofrestriadau addysg uwch yng Nghymru
- Mae’r nifer sydd wedi cofrestru mewn prifysgolion yng Nghymru wedi cynyddu o 121,010 yn 2017/18 i 121,880 yn 2018/19.
- Roedd nifer y myfyrwyr israddedig a oedd yn astudio’n rhan-amser wedi gostwng eleni, sef 555 yn llai (3.6%). Felly, mae’r gostyngiad a welwyd ers 2011/12 yn parhau.
- Roedd nifer y myfyrwyr israddedig amser llawn wedi aros ar lefel sy’n debyg i’r hyn ydoedd yn 2017/18, yn dilyn cynnydd dros y tair blynedd ddiwethaf.
- Roedd gostyngiad o 1,995 (7%) yn nifer y myfyrwyr israddedig a oedd yn astudio’n rhan-amser.
- Gwelwyd cynnydd yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig a oedd wedi cofrestru o 24,875 i 26,350 yn 2018/19 (cynnydd o 5.9%).
- Roedd bron i ddau o bob pum myfyriwr ôl-raddedig yn astudio’n rhan-amser, o gymharu â bron un o bob pum myfyriwr israddedig.
- Roedd tua hanner nifer y myfyrwyr mewn prifysgolion yng Nghymru yn dod o Gymru cyn iddynt ddechrau astudio.
- Y grŵp pwnc mwyaf poblogaidd mewn prifysgolion yng Nghymru yn 2018/19 oedd Gwyddorau Biolegol, a Phynciau’n gysylltiedig â meddygaeth yn dilyn.
Llifoedd trawsffiniol myfyrwyr amser llawn
- Mae Cymru’n fewnforiwr net o ran myfyrwyr amser llawn o’r DU. Yn 2018/19, derbyniodd Cymru 10,325 yn fwy o fyfyrwyr o wledydd eraill y DU nag a anfonwyd i’r gwledydd hynny.
- Roedd 36,820 o fyfyrwyr o wledydd eraill y DU mewn prifysgolion yng Nghymru, o gymharu â 26,500 o fyfyrwyr o Gymru yn astudio mewn SAUau yng ngweddill y DU.
- Roedd dau o bob pum myfyriwr israddedig o Gymru yn astudio yn Lloegr, fel y gwnaeth ychydig dros un o bob tri myfyriwr ôl-raddedig o Gymru.
Cymwysterau addysg uwch
- Roedd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o Gymru wedi cynyddu i 28,735 yn 2018/19.
- Roedd tua thri chwarter y cymwysterau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o Gymru yn rhai israddedig.
- Roedd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd gan brifysgolion yng Nghymru wedi cynyddu ychydig yn 2018/19 i 39,400.
Addysg Uwch mewn Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) yng Nghymru
- Mae niferoedd myfyrwyr ar gyrsiau Addysg Uwch mewn Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) yng Nghymru ar gael o 2016/17 ymlaen.
- Mae niferoedd myfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch mewn SABau yng Nghymru wedi cynyddu ychydig o 1,670 yn 2017/18 i 1,705 yn 2018/19.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.