Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths wedi cadarnhau bod Kevin Roberts wedi’i ailbenodi yn Gadeirydd Hybu Cig Cymru, gan ymestyn ei dymor am ddeuddeg mis arall.
Mae Kevin Roberts wedi bod yn Gadeirydd Hybu Cig Cymru, y sefydliad wedi'i arwain gan y diwydiant sy’n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig oen, cig eidion a phorc o Gymru ers gwanwyn 2017.
Wrth gyhoeddi’r newyddion am Kevin, dywedodd y Gweinidog:
Rwy'n falch i gadarnhau bod Kevin Roberts wedi derbyn fy nghynnig i barhau'n Gadeirydd Hybu Cig Cymru am ddeuddeg mis arall. Mae Kevin wedi bod yn Gadeirydd effeithiol iawn yn ystod cyfnod o ansicrwydd a newid heb ei debyg. Bydd y newyddion hwn yn rhoi parhad sydd i'w groesawu'n fawr gan dalwyr yr ardoll, ffermwyr a diwydiant amaethyddiaeth Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio'n agos gyda Kevin a gweddill tîm Hybu Cig Cymru wrth i ni wynebu'r heriau sydd o'n blaenau.
Dywedodd Kevin Roberts:
Rwy'n edrych ymlaen at barhau â gwaith hanfodol Hybu Cig Cymru mewn cyfnod o ansicrwydd mawr ar gyfer ffermwyr a phroseswyr Cymru, drwy ansefydlogrwydd Brexit i'r hyn rwy'n hyderus sy'n ddyfodol cryf.
Mae'r blaenoriaethau allweddol yn ystod y flwyddyn nesaf yn cynnwys ein menter newydd i hyrwyddo neges gadarnhaol cig coch Cymru o ran cynaliadwyedd amgylcheddol, adeiladu'r fasnach allforio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, a chyflawni’r Rhaglen Datblygu Cig Coch wedi'i hariannu gan yr UE a Llywodraeth Cymru.
Gwnaeth y Gweinidog hefyd gyhoeddi bod proses recriwtio yn cael ei lansio i ddod o hyd i bedwar aelod newydd o Fwrdd Hybu Cig Cymru:
"Mae Bwrdd Hybu Cig Cymru yn cyflawni rôl hanfodol o ran cefnogi'r Cadeirydd a gosod y cyfeiriad ar gyfer diwydiant cig coch Cymru yn y dyfodol. Rwy'n annog unrhyw un sy'n teimlo bod ganddynt y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ystyried cyflwyno cais."
Bydd yr hysbyseb yn ymddangos ar system Penodi ar-lein Llywodraeth Cymru tan 5 Ionawr 2020.