Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Heddiw (2 Rhagfyr 2019), byddwn yn cychwyn adran 75(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 drwy Orchymyn 2019 (Gorchymyn Cychwyn Rhif 10) Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Bydd yr is-adran benodol honno'n cynnig camau diogelu ychwanegol ar gyfer rhai aelwydydd sydd wedi mynd yn ddigartref, ac y mae'r Awdurdod Lleol wedi'u hasesu i fod yn fwriadol ddigartref.
Bydd hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau llety i aelwydydd â merched beichiog, plant a rhai pobl ifanc sydd wedi’u dyfarnu i fod yn fwriadol ddigartref.
Bydd hyn yn sicrhau mwy o ddiogelwch i aelwydydd sy'n agored i niwed a chymorth ychwanegol i rai o'n pobl ifanc a'r rheini sy'n gadael gofal, yn unol â'n hymrwymiad i roi sylw dyledus i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Ar hyn o bryd, rydym wrthi'n cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r Cod Canllawiau, ar y cyd â rhanddeiliaid ar draws y sector. Bydd y ddogfen derfynol yn newydd, yn hawdd ei defnyddio ac yn fwy seiliedig ar bolisïau – a bydd yn amlinellu polisi Llywodraeth Cymru a'r safbwynt cyfreithiol yn glir ac yn blwmp ac yn blaen. Bydd hefyd yn cynnig canllawiau ymarferol i gefnogi staff rheng flaen wrth ddarparu gwasanaeth o safon i aelwydydd ledled Cymru; a'u cefnogi i gael y cymorth iawn cyn gynted ag y bo modd. Tra bo'r cod newydd yn cael ei ddatblygu, byddwn yn cyhoeddi canllawiau interim ar gyfer awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith o weithredu adran 75(3).
Er bod y nifer sydd wedi derbyn dyfarniad eu bod yn fwriadol ddigartref yn llawer is na'r hyn yr oeddent cyn y newid i'r ddeddfwriaeth (201 yn 2017/18, a 605 yn 2013/14), mae cysyniad y prawf bwriad yn parhau i fod yn ddadleuol. I raddau, fe'i etifeddwyd wrth geisio symud o ddull cyfyngol o gefnogi pobl mewn angen. Mae'r ddarpariaeth ychwanegol hon yn cefnogi ein dull strategol ac yn helpu i sicrhau bod rhai o'n dinasyddion sydd fwyaf agored i niwed yn cael y cymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnynt i'w helpu i ddod o hyd i lety priodol a chadw'r llety hwnnw.
Ym mis Hydref, cyhoeddais ddatganiad polisi strategol newydd a oedd yn nodi'r prif egwyddorion sy'n sail i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru:
- Yr ymyriadau ataliol cynharaf yw'r rhai mwyaf effeithiol a chost-effeithiol, a'r ymyriadau hynny a ddylai gael eu dewis yn gyntaf bob tro.
- Mae mynd i'r afael â digartrefedd a'i atal yn fater sy'n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus – yn hytrach na ‘mater sy'n ymwneud â thai’.
- Dylai pob gwasanaeth roi'r lle canolog i'r unigolyn a gweithio ar y cyd mewn ffordd sy'n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma.
- Ni ddylid troi at y dyletswyddau yn Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 tan fod popeth arall posibl wedi ei wneud yn gyntaf, a dylem sicrhau bod pob gwasanaeth yn gweithredu yn ysbryd y ddeddf ac nid yn ôl llythyren y gyfraith yn unig.
- Dylai'r rheini sydd â phrofiad o'n polisïau, ein harferion a'r gwasanaethau a ddarperir gydweithio i'w llywio.
Mae Adran 75(3) hefyd yn cadarnhau ein bod yn rhoi sylw i gefnogi'r unigolyn wrth helpu pobl oddi ar y strydoedd i lety cynaliadwy hir dymor.
Gallwch weld y canllawiau interim i gefnogi'r gwaith gweithredu drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
https://llyw.cymru/dyrannu-llety-digartrefedd-canllawiau-ar-gyfer-awdurdodau-lleol