Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Ym mis Mawrth 2019 lansiodd Llywodraeth Cymru Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel. Hwn oedd ein cynllun statudol cyntaf ar gyfer arafu'r newid yn yr hinsawdd. Ceir 100 o bolisïau a chynigion ynddo ar gyfer datgarboneiddio, i'n helpu i gydymffurfio â'n cyllideb garbon gyntaf a gosod y sylfeini ar gyfer lleihau allyriadau ymhellach. Gwnaethon ni hefyd ddatgan ei bod yn argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill fel arwydd arall o'n hymrwymiad i daclo un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu cenedlaethau heddiw ac yfory.
Er mwyn ategu'r camau hyn i ddatgarboneiddio economi Cymru, mae angen inni ymateb hefyd i'r effeithiau rydym eisoes yn eu gweld yn sgil y newid yn yr hinsawdd, sy'n bygwth ein hecosystemau a'n ffordd o fyw. Mae addasu i hinsawdd sy'n newid yn golygu deall yn glir pryd a ble y bydd yr effeithiau hyn yn debygol o'n taro, er mwyn inni allu ymateb yn y ffordd fwyaf effeithiol ac amserol posibl. Rhaid inni felly, gyda'n gilydd, flaenoriaethu ar sail lefel y risg yr hyn rydym am ei wneud i baratoi ac addasu i'r newidiadau cyn inni deimlo'u heffeithiau'n llawn. Trwy wneud, gallwn sicrhau fod Cymru'n para i lwyddo ac amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, sef y rhai fydd fwyaf tebygol o deimlo baich y newid yn yr hinsawdd.
Roedd ein cynllun addasu cyntaf yn rhan o'n Strategaeth Newid Hinsawdd 2010 a gosododd yn llwyddiannus y sylfeini ar gyfer addasu yng Nghymru, trwy ddatblygu'r dystiolaeth, rhannu arferion da a chymryd y camau cyntaf i brif-ffrydio ymdrechion i addasu.
Rydyn ni heddiw'n cyhoeddi cynllun newydd ar gyfer addasu i'r newid yn yr hinsawdd, Ffyniant i Bawb: Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd, sef ail gynllun addasu statudol Llywodraeth Cymru.
Mae ein cynllun newydd yn esbonio'r camau y byddwn yn eu cymryd dros y pum mlynedd nesaf i fynd i'r afael â'r meysydd lle ceir y risg fwyaf, fel y cawsant eu nodi gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn ei Asesiad diweddaraf o Risgiau Newid Hinsawdd. Byddwn hefyd yn nodi'n blaenoriaethau ymchwil ar gyfer deall yn well effeithiau'r newid yn yr hinsawdd a sut i ymateb iddyn nhw. Trwy'r cynllun hwn, mae Llywodraeth Cymru'n esbonio sut y byddwn yn amddiffyn ein hecosystemau ac yn addasu'n cartrefi, cymunedau, busnesau a seilwaith wrth inni ymateb i'r dystiolaeth o'r risgiau a ddaw i Gymru yn sgil hinsawdd sy'n newid.
Rydym eisoes wedi buddsoddi'n drwm mewn addasu i newid yn yr hinsawdd ac i baratoi at y dyfodol trwy amrywiaeth o bolisïau, rhaglenni ac ymyriadau ac mae'r cynllun hwn yn profi eto ein huchelgais i greu Cymru sy'n fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd.
Nid ar chwarae bach y mae rhoi'n cynllun ar waith, ond rhaid i ni i gyd addasu a rhaid i ni i gyd ymrwymo i ddiogelu'n gwlad er lles cenedlaethau heddiw ac yfory. Bydd llwyddiant yn golygu bod Cymru'n wlad sy'n effro i'r hinsawdd, sy'n gwybod am y risgiau sy'n ein hwynebu ond sy'n barod i addasu hefyd i'r effeithiau cyn eu bod yn digwydd.