Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae pecyn gofal iechyd parhaus y GIG yn becyn gofal a chymorth i bobl sydd ag anghenion gofal cymhleth sydd yn rhai iechyd yn bennaf. Mae penderfynu a yw’r prif anghenion yn ymwneud ag iechyd yn seiliedig ar ystyried pedair prif nodwedd yr angen dan sylw: ei natur, ei ddifrifoldeb, ei gymhlethdod, a pha mor anrhagweladwy ydyw. GIG Cymru, drwy’r byrddau iechyd lleol, sy’n gyfrifol am sicrhau bod gofal iechyd parhaus yn cael ei ddarparu, er bod gan eraill hefyd, gan gynnwys awdurdodau lleol, rôl i’w chwarae yn y gwaith hwn. Mae’r trefniadau presennol ar gyfer gweithredu’r pecyn hwn wedi eu disgrifio yn y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG yng Nghymru, a gafodd ei gyhoeddi yn 2014 (‘Fframwaith 2014’).
Roedd Fframwaith 2014, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2014, yn disodli Fframwaith 2010, gyda’r bwriad o roi sylw i nifer o faterion a nodwyd ar y pryd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Roedd y materion hyn yn canolbwyntio ar yr angen i wneud y canlynol: sicrhau mwy o berchnogaeth strategol, gwella’r cymorth a ddarperir ar gyfer ymarferwyr a’r cyhoedd, diwygio’r broses asesu a chymhwysedd, a gweithredu trefniadau llywodraethu trylwyr ar gyfer rheoli hawliadau ôl-weithredol neu hawliadau sydd wedi eu hôl-ddyddio.
Fel rhan o ymrwymiad a wnaed i adolygu’r trefniadau yn Fframwaith 2014, rhwng 26 Mai a 21 Awst 2019 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gynigion i ddiwygio’r fframwaith cenedlaethol. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn i randdeiliaid roi eu sylwadau ar y newidiadau i Fframwaith 2014 (y Fframwaith diwygiedig) a hefyd yr offeryn cefnogi penderfyniadau a ddefnyddir fel rhan o’r broses i asesu cymhwysedd ar gyfer cael gofal iechyd parhaus.
Nod y Fframwaith diwygiedig oedd darparu mwy o eglurder a gwella sut mae’n cael ei gyflwyno drwy ei ail-ddylunio i adlewyrchu’r broses gofal iechyd parhaus mewn modd ystyrlon a hawdd ei deall o’r dechrau i’r diwedd. Roedd hynny’n cynnwys sicrhau bod mwy o eglurder ynghylch yr amgylchiadau sy’n berthnasol i’r broses o asesu’r unigolyn, er mwyn bodloni’r gofynion a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae’r Fframwaith diwygiedig yn nodi cyfrifoldebau’r byrddau iechyd lleol o ran diwallu unrhyw anghenion gofal a chymorth a nodir yn sgil asesiad, lle mae gofal iechyd parhaus yn cael ei ddarparu i unigolyn yn ei gartref ei hunan. Mae hefyd yn cyd-fynd â’r trefniadau ar gyfer monitro a rheoli gofal i oedolion yn barhaus, a hynny o dan ran 4 (Diwallu Anghenion) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Er bod cysylltiadau â darpariaethau sy’n bodoli eisoes wedi eu cadw a’u diweddaru, rydym wedi egluro a chryfhau’r geiriad sy’n ymwneud â gwasanaethau ôl-ofal mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl ac amddifadu o ryddid.
Rydym hefyd wedi cryfhau’r darpariaethau sy’n ymwneud â threfniadau pontio i blentyn a fydd yn dechrau derbyn gofal iechyd parhaus wrth iddo gyrraedd 18 oed. Mae hyn yn gydnaws â’r cynigion yn y fframwaith newydd ar gyfer darparu gofal parhaus i blant a phobl ifanc. Mae hynny’n golygu bod angen darparu pecyn cymorth cyson sydd wedi ei gynllunio a’i gytuno â’r person ifanc a’i ofalwr. Ni ddylid aros nes i’r unigolyn gyrraedd 14 oed, ond dylid dechrau cyn gynted â bod yr angen yn cael ei nodi, neu pan fo problemau’n codi a fydd yn golygu y bydd angen gofal parhaus wedi’r oedran hwnnw.
Mae’r Fframwaith diwygiedig yn cynnig protocol newydd ar gyfer cynnal adolygiadau ôl-weithredol. Bydd yn darparu proses newydd ddau gam, sy’n cynnwys cwblhau rhestr wirio gychwynnol a chynnal adolygiad llawn, wrth ystyried hawliad ôl-weithredol. Mae hynny er mwyn helpu i reoli’r nifer mawr o hawliadau sy’n cael eu gwneud, ac i reoli’r system ei hunan.
Ar y cyfan, roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn gadarnhaol, ac roedd llawer o’r ymatebwyr yn cytuno bod y ddogfen yn darparu mwy o eglurder mewn meysydd allweddol. Roedd nifer bach o randdeiliaid yn pryderu bod angen mwy o eglurder mewn meysydd eraill hefyd er mwyn inni allu gweithredu’r fframwaith gofal iechyd parhaus mewn modd effeithiol a theg. Bydd rhagor o waith ar y Fframwaith diwygiedig yn cael ei wneud yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn rhoi sylw i’r pryderon hynny. Awgrymodd nifer o ymatebwyr y dylid mynd ati i adolygu’r fframwaith ar gyfer y polisi gofal nyrsio a ariennir yn 2020/21. Ein bwriad yw gwneud hynny yn 2020, ar ôl i’r Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus newydd gael ei roi ar waith.
Parhau y mae’r pryder ynghylch gallu’r unigolyn i ddefnyddio’i llais ac arfer ei reolaeth, wrth benderfynu sut, pryd, a chan bwy y daw’r cymorth sy’n ei helpu i ddiwallu ei anghenion gofal a chymorth cymwys wrth bontio o daliadau uniongyrchol i dderbyn gofal iechyd parhaus. Byddwn yn sefydlu gweithgor yn ystod yr wythnosau nesaf i edrych ar yr opsiynau sydd ar gael inni, ac i ystyried y ffordd orau o gyflwyno newidiadau yn y maes hwn. Byddwn yn adolygu unrhyw rwystrau deddfwriaethol sy’n parhau i atal byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol rhag defnyddio arian cronfeydd cyfun i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, er mwyn inni allu rhoi sylw i’r rhwystrau hynny. Byddwn yn ystyried pa mor ymarferol fyddai cyflwyno ymddiriedolaethau annibynnol ar gyfer defnyddwyr yng Nghymru fel un ffordd o helpu’r unigolyn i reoli ei anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Ein disgwyliad clir a diamwys ni yma yng Nghymru yw bod angen i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fod yn ddi-dor ac yn integredig, ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn mewn modd sy’n ei alluogi i barhau i ddefnyddio ei lais ac arfer ei reolaeth, gan gynnwys mewn perthynas â’r rheini sy’n darparu ei ofal, os bydd yr unigolyn yn dymuno hynny.
Bydd cyfnod gweithredu yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr ymgynghoriad hwn, er mwyn caniatáu cyfle i lunio fersiwn derfynol y dogfennau a datblygu pecyn hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer yr holl ymarferwyr sy’n rhan o’r broses gofal iechyd parhaus.
Yn ogystal â hynny, byddwn yn gweithio gyda grwpiau sy’n cynrychioli’r claf ac aelodau’r cyhoedd i gyd-gynhyrchu llyfryn sy’n rhoi gwybodaeth gynhwysfawr am ofal iechyd parhaus i’r cyhoedd. Bydd y llyfryn hwn yn disgrifio pob cam o’r broses y mae unigolyn yn mynd drwyddi wrth gael ei asesu ar gyfer cael gofal iechyd parhaus. Rydym yn disgwyl y bydd hynny’n cynnwys siart lif, gwybodaeth am hawliau’r unigolyn ym mhob cam o’r broses, a gwybodaeth am y gwasanaethau eirioli, cymorth a chyngor sydd ar gael i’w helpu.
Bydd y llyfryn hwn yn grymuso’r unigolyn a’i ofalwyr mewn modd sy’n eu galluogi i chwarae rhan lawn yn y broses asesu, ac yn y penderfyniadau am y cymorth y maent yn ei gael. Rydym hefyd yn adolygu’r fframwaith perfformiad ar gyfer gofal iechyd parhaus er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn addas i’w ddiben. Rydym yn bwriadu cyhoeddi’r fframwaith cenedlaethol diwygiedig ar gyfer gofal iechyd parhaus, yr offeryn cefnogi penderfyniadau, y fframwaith perfformiad ar gyfer gofal iechyd parhaus, a’r llyfryn gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd, a hynny ym mis Ebrill 2020.