Daeth yr ymgynghoriad i ben 6 Mawrth 2014.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 203 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn diweddaru'r canllaw ar Adran 101A o Ddeddf y Diwydiant dŵr 1991. Rhowch eich barn.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Wrth asesu a oes dyletswydd o dan adran 101A i osod carthffos gyhoeddus ac a yw hi’n briodol gwneud hynny mae’n rhaid ystyried unrhyw ganllawiau y mae Gweinidogion Cymru’n eu cyhoeddi.
Mae’r rhan fwyaf o eiddo yng Nghymru a Lloegr wedi’u cysylltu â charthffos gyhoeddus. Ond mae rhyw 4% wedi’u cysylltu â system garthffos annibynnol sy’n eiddo i’r perchennog ac sy’n cael ei chynnal ganddo.
Os nad yw’r systemau hyn yn gallu ateb gofyn y perchennog yn foddhaol yn yr hirdymor yna gall y perchennog ymgeisio o dan adran 101A am garthffos gyhoeddus.
Dyma sydd yn y canllaw drafft:
- disgrifiad o’r opsiynau ar gyfer sicrhau system garthffos gynaliadwy ar gyfer eiddo nad yw wedi’i gysylltu â charthffos gyhoeddus
- gwybodaeth fydd yn helpu deiliaid tai meddianwyr a pherchnogion eiddo benderfynu a fydd adran 101A o help iddyn nhw
- disgrifio rôl a chyfrifoldeb y cwmnïau carthffosiaeth y rheoleiddwyr amgylcheddol (Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru) a pherchnogion eiddo wrth ddefnyddio adran 101A
- cyngor ar arferion da.
Mae’r canllaw drafft yn disodli ac yn diweddaru’r canllaw blaenorol a gyhoeddwyd ym 1996 gan Adran yr Amgylchedd a’r Swyddfa Gartref.