Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Yn dilyn cyhoeddiad na fyddai Menter ar y Cyd rhwng Tata Steel a thyssenkrupp yn mynd yn ei flaen fis Mai eleni, cyhoeddodd Tata Steel ei fod yn cydweithio gydag ymgynghorwyr ailstrwythuro Alvarez and Marsal i ddatblygu cynllun trawsnewid newydd.
Heddiw mae’r cwmni wedi gwneud eu cyhoeddiad cyntaf am ganlyniad y gwaith ailstrwythuro hwn, ac mae'n cynnwys amcan o 3000 o swyddi fydd yn cael eu colli ledled Ewrop.
Mae hyn yn newyddion siomedig tu hwnt. Rwyf am drefnu sgwrs frys â'r cwmni i weld yn union beth y mae hyn yn ei olygu i fusnesau yng Nghymru, y miloedd o bobl sydd wedi’u cyflogi ar draws eu safleoedd yng Nghymru, a sut y gallwn helpu'r rhai yr effeithir arnynt.
Wrth weithredu'r newidiadau hyn, rydym wedi ymrwymo o hyd i weithio gyda'r cwmni a'r undebau llafur i sicrhau dyfodol hirdymor i gynhyrchu dur yng Nghymru.
Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi gweithwyr yr effeithiwyd arnynt, ac mae ein rhaglen ReAct yn barod i roi cymorth i weithwyr ar draws safleoedd Tata Steel yng Nghymru, gan gynnwys cymorth wedi'i gydlynu gan bartneriaid lleol.
Mae'r datganiad hwn yn dilyn y newyddion siomedig ar 2 Medi am fwriad Tata Steel i gau safle Orb Electrical Steels yng Nghasnewydd. Bu'r Prif Weinidog a minnau yn ymweld â safle Orb ar 13 Tachwedd i gyfarfod Undeb Community, sydd wedi gweithio gyda'r ymgynghorwyr Syndex i lunio adroddiad sy'n rhoi amlinelliad o ddewis arall yn lle cau Orb. Yn dilyn hyn, trafodais bwysigrwydd gadael digon o amser i ystyried y cynnig hwn ac unrhyw gynigion eraill a ddaw allai gynnig dyfodol hyfyw i'r gwaith gyda Henrik Adam, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel Europe.
Mae'r sector dur yn parhau i wynebu heriau enfawr, yn fyd-eang a gartref, gan gynnwys gor-gapasiti byd-eang, cynnydd mewn carbon a phrisiau deunydd crai, gwerthiant yn arafu, mwy o fewnforio, prisiau ynni uchel yn y DU a dirywiad yn y prif sectorau o fewn y gadwyn gyflenwi megis y sector moduro.
Mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU yn chwarae ei rhan yn llawn i gefnogi'r diwydiant dur, sy'n sector strategol hollbwysig i'r DU yn gyfan. Rydym yn parhau i godi'r mater o effaith andwyol prisiau ynni uchel ar y sector dur gyda Llywodraeth y DU, ac yn pwyso arni i ddatblygu cytundeb neu rhywbeth tebyg ar fyrder ar gyfer y sector dur.
Ysgrifennais at Andrea Leadsom, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol fis diwethaf, yn gofyn iddi drefnu cyfarfod gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r diwydiant dur, un tebyg i Gyngor Dur y DU. Roeddwn yn falch felly pan gytunodd yr Ysgrifennydd Gwladol i drefnu Bord Gron UK Steel ar gyfer 24 Hydref, ond yn siomedig ac yn rhwystredig i’r cyfarfod gael ei ganslo ar y funud olaf.
Mae cyhoeddiad heddiw yn brawf pellach bod yn rhaid i Lywodraeth y DU roi’r pwysigrwydd dyledus i’r argyfwng yn y diwydiant dur, ac i ail-drefnu'r cyfarfod cyn gynted â phosibl.