Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl am y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyd-Weinidogol ar Ddull Ysgol Gyfan o Ymdrin ag Iechyd Meddwl a Llesiant.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyd-weinidogol ar ddull ysgol gyfan o hybu iechyd meddwl a llesiant, fel rhan o ddull system gyfan sydd hefyd yn cydnabod effaith ehangach llesiant corfforol. Wrth fynd ati i gyflawni hyn, bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ystyried yr argymhellion a'r canfyddiadau yn adroddiad Cadernid Meddwl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Ebrill 2018). Caiff y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ei gefnogi gan grŵp cyfeirio rhanddeiliaid.
Diben
Diben y grŵp cyfeirio rhanddeiliaid yw:
- cefnogi gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen drwy roi mewnbwn arbenigol a gweithredu fel bwrdd seinio i'r Bwrdd Gorchwyl a Gorffen wrth i raglen waith y dull ysgol gyfan gael ei datblygu a'i rhoi ar waith.
- gweithredu fel cyswllt rhwng y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a'r trydydd sector er mwyn helpu i nodi dulliau strategol a gweithredol a all gefnogi'r dull ysgol gyfan a chytuno arnynt.
- ystyried atebion ymarferol a rhoi cyngor ac argymhellion i Lywodraeth Cymru i gefnogi'r rhaglen waith.
Bydd gwaith a wneir gan y grŵp hwn yn cyd-fynd â'r egwyddorion sy'n sail i waith yr ysgol gyfan a'r dull ysgol gyfan:
- Rhaid i'r cymorth fod yn gyffredinol ac wedi'i dargedu.
- Rhaid i'r cymorth fod yn briodol, yn amserol ac yn effeithiol.
- Rhaid i'r cymorth ganolbwyntio ar atal, ymarfer adferol ac ar ymyrryd effeithiol ac amserol pan fydd angen.
- Dylai cymorth osgoi meddygoli plant, a chanolbwyntio ar anghenion a dymuniadau'r plant a'r bobl ifanc dan sylw.
Aelodaeth a Strwythur y Grŵp
Bydd y Grŵp yn cwrdd o leiaf deirgwaith y flwyddyn, gan ddilyn yr un amserlen â'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Os bydd angen, gall gwrdd yn amlach er mwyn datblygu camau gweithredu neu ddarnau o waith penodol. Gellir llunio is-bwyllgorau gyda chytundeb y grŵp cyfan, er mwyn datblygu darnau o waith ar wahân ar sail ad hoc. Mae cyfyngiadau amser i'r Grŵp a bydd yn rhedeg tan ddiwedd tymor y Cynulliad hwn (Mai 2021).
Caiff ei gadeirio gan Ruth Conway, Dirprwy Gyfarwyddwr – Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru. Darperir cymorth ysgrifenyddiaeth gan Lywodraeth Cymru.
Aelodau
|
Sefydliad |
Cynrychiolwyr a Gadarnhawyd |
Yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf ar 24 Ionawr 2019 |
|
Byrddau Iechyd Lleol |
|
|
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf |
Craige Wilson (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Sylfaenol, Gwasanaethau Plant a Chymunedol) |
Oedd |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Gofynnwyd i Gary Doherty (Prif Weithredwr) roi enwebiadau |
|
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Addysgu Powys |
1. Helen James, Nyrsio Ysgolion |
Oedd |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan |
Nick Wood (i ffwrdd o'r gwaith ar hyn o bryd – bydd yn dychwelyd ar 10/12) – Mae ei Gynorthwyydd Personol wedi'i roi yn ei galendr |
|
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Rachel Burton (Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer Bwrdd Clinigol Plant a Menywod)
|
Oedd
Oedd |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bro Morgannwg |
Gofynnwyd i Tracy Mayhill (Prif Weithredwr) roi enwebiadau. |
|
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Angela Lodwick, Pennaeth |
Oedd |
|
Niwroddatblygol |
Gofynnwyd i Dr Cath Norton, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, fod yn Gynrychiolydd.
|
|
|
Nyrsio ysgolion |
Barbara Morgan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Uwch Nyrs Sicrhau Ansawdd Nyrsio Ysgolion |
Oedd |
|
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Tim Opie, Swyddog Polisi Dysgu Gydol Oes
|
Oedd |
|
Llywodraethwr Ysgol/Cynrychiolydd rhieni |
Gofynnwyd i Kevin Griffiths, SED, roi enwebiadau |
|
|
Cwnsela Awdurdod Lleol |
Chris Alders, Awdurdod Lleol Bro Morgannwg |
Oedd |
|
Seicoleg Addysgol Awdurdodau Lleol |
Gofynnwyd i Debbie Tynan, Anawsterau Dysgu Difrifol, roi enwebiadau |
|
|
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion |
Amani Hassan, Cadeirydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion |
Oedd |
|
Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc |
Deb Austin, Rheolwr Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc |
Oedd |
|
Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru |
Sarah Andrews, Pennaeth y Rhaglen, Lleoliadau Iach, Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Oedd |
|
Swyddfa'r Comisiynydd Plant |
Kirrin Davidson, Cynghorydd polisi |
Oedd |
|
Y Trydydd Sector |
|
|
|
Samariaid Cymru |
Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol |
Oedd |
|
Gofal |
Liz Mander, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau |
Oedd |
|
Mind |
Nia Evans, Rheolwr, Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc |
Oedd |
|
Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru |
Lynzi Jarman, Cyfarwyddwr Ymgysylltu ac Arloesi |
Oedd |
|
Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol |
Sharon Lovell, Cyfarwyddwr Gweithredol Cenedlaethol (Cymru) |
Oedd |
|
Hwb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod |
Gwahoddwyd Joanne Hopkins (Cyfarwyddwr) |
Oedd |
|
Rhanddeiliad addysg (pennaeth?) |
I'w gyhoeddi |
|
|
Cydgysylltydd ADY |
Gofynnwyd i Debbie Tynan, Anawsterau Dysgu Difrifol, roi enwebiadau |
|
|
Cynrychiolydd TUC |
1. Rosie Lewis, Unsain |
Oedd |
|
Academaidd |
Ann John, Athro Clinigol Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg |
Oedd |
|
Cymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg (CYDAG) |
Gofynnwyd am enwebiad |
|
|
Chwaraeon Cymru |
Gofynnwyd i Paul Batcup, Cyfarwyddwr, am enwebiad |
|
|
Arbenigwr ar Anhwylderau Bwyta |
Jacinta Tan, Seiciatrydd Ymgynghorol, Tîm Anhwylderau Bwyta Oedolion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bro Morgannwg |
Oedd |
|
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol |
Sally Jenkins |
Oedd (ond dim ond o 15:00 ymlaen) |
|
Cydffederasiwn y GIG |
Vanessa Young, |
Oedd |
|
Diverse Cymru |
Zahrah Bashir-Hicks, Gweithiwr Ieuenctid Iechyd Meddwl Ymysg Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig |
Oedd |
|
Uned Gyswllt yr Heddlu |
Gofynnwyd i Lynda Young o Uned Gyswllt yr Heddlu (drwy DS/Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol) roi enwebiad |
|
|
End Youth Homelessness |
Hugh Russell, |
|
Mewnbwn y tu allan i gyfarfodydd
Y tu allan i gyfarfodydd, gwneir gwaith ymgysylltu a chaiff mewnbwn ei roi yn electronig gan y Grŵp. Gellir ymgynghori â chronfa ehangach o randdeiliaid yn electronig a bod eu safbwyntiau'n cael eu bwydo'n ôl i'r Grŵp eu hystyried pan fo'n briodol.
Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Ieuenctid
Mae'r Grŵp yn bodoli ochr yn ochr â'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Ieuenctid, a fydd yn cwrdd gan ddilyn yr un amserlen a byddant yn ystyried agenda debyg. Bydd y nodyn o gyfarfodydd Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Ieuenctid ar gael i aelodau'r Grŵp hwn ar gais.
Cyfrinachedd
Anogir Aelodau'r Grŵp i ddefnyddio'r sefydliad neu'r sector maent yn ei gynrychioli a cheisio adborth ar faterion polisi ac ymarfer er mwyn llywio a chefnogi'r dull ysgol gyfan.
Fodd bynnag, bydd disgwyl i chi drin gwybodaeth a gafwyd drwy'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid yn gyfrinachol gan rannu ar sail gyfyngedig yn unig.
Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn hysbysu aelodau'r Grŵp o unrhyw wybodaeth gyfrinachol na ellir ei rhannu y tu allan i'r Grŵp.