Mae'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi heddiw fod yr UE wedi neilltuo £1.3m i helpu i feithrin sgiliau technegol ac uwch busnesau amaeth a bwyd.
Bydd yr arian yn estyn ffiniau'r prosiect BioArloesi tua'r dwyrain i wasanaethu Cymru gyfan.
Mae rhyw 50,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector bwyd-amaeth yng Nghymru. Mewn swyddi mewn amaethyddiaeth, prosesu bwyd, cynhyrchu offer fferm, rhewi, dosbarthu, pacio a mewnforio ac allforio bwyd. Mae'r sector yn werth rhyw £7 biliwn i'r economi.
Mae'r prosiect BioArloesi yn cael ei redeg gan Brifysgol Aberystwyth ar safle ei Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), gan ddarparu cymwysterau ôlradd a sgiliau sydd wedi'u hachredu gan y diwydiant i fusnesau bwyd-amaeth a biodechnoleg yng Nghymru, hynny gyda chymorth Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe.
Amcan y prosiect yw helpu busnesau i dyfu a'u gwneud yn fwy cynaliadwy a chynhyrchiol trwy raglenni hyfforddi sy'n seiliedig ar ymchwil ac arloesi.
Bydd yn hyrwyddo'r arfer gorau mewn meysydd fel cynhyrchu deunydd crai, prosesu bwyd, datblygu, pacio, dosbarthu a chludo cynnyrch a rheoli gwastraff er mwyn hybu'r economi gylchol.
Dros y tair blynedd nesaf, bydd yr arian yn helpu rhyw 150 o fusnesau yn y Dwyrain ac yn meithrin sgiliau technegwyr, ymgynghorwyr, ymchwilwyr a rheolwyr sy'n gweithio ym mhob rhan o ddiwydiannau bwyd-amaeth a biodechnoleg Cymru, gan wella'u hargoelion am waith.
Dywedodd Jeremy Miles:
"Mae Cymru wrthi'n rheoli tir mewn ffordd fwy cynaliadwy wrth i'r hinsawdd ac anghenion y farchnad newid. Mae atebion carbon isod yn cael eu defnyddio ym mhob rhan o'r gadwyn fwyd - ar y fferm, wrth gynhyrchu, prosesu a defnyddio bwyd ac wrth ddelio â gwastraff, er enghraifft trwy ddatblygu cnydau sy'n gallu gwrthsefyll sychder a phlâu.
"Mae hyn oll yn ganlyniad i ddatblygiad yn yr astudiaeth o ecosystemau a bioarloesi, a chydweithio rhwng prifysgolion a busnesau yng Nghymru. Mae sgiliau technegol ac uwch yn hanfodol er mwyn arloesi a thyfu yn y maes hwn, a dyma beth yw cyfraniad y prosiect BioArloesi.
"Mae arian yr UE yn rhoi hwb i ymchwil a datblygu, gwyddoniaeth a hyfforddiant sgiliau yng Nghymru, hynny er lles busnesau ac argoelion y bobl sy'n gweithio yn y sector bwyd a ffermio. Mae hyn yn troi'n dwf economaidd yn ogystal â chyfrannu at ddatrys problemau mawr y byd. Gyda chymorth yr UE, rydyn ni'n cymryd camau mawr ymlaen i wneud Cymru'n wlad fwy cyfartal a ffyniannus a gwyrddach."
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:
“Rwy’n teimlo’n angerddol ynghylch gwneud yr economi, cyflogadwyedd a datblygu sgiliau yn fwy integredig, sef yr allweddi i wneud Cymru’n fwy ffyniannus.
Bydd y buddsoddiad pwysig hwn yn ein helpu i wneud hynny trwy gefnogi busnesau i ddarparu hyfforddiant technegol yn y gwaith i weithwyr crefftus mewn sector pwysig o economi Cymru.”
Dywedodd yr Athro Mike Wilkinson o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae’r rhan fwyaf o fusnesau’n gallu gweld mantais lleihau gwastraff a gwneud mwy am lai. Mae ein cyrsiau ni’n anelu at roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i integreiddio ethos yr ‘Economi Gylchol’ yn eu gwaith bob dydd ac yn eu prosesau penderfynu strategol.
“Rydym wedi gweithio’n galed i ddatblygu cyrsiau sy’n hygyrch i bobl sydd â bywydau prysur a rhoi’r arfau iddynt allu gwneud gwahaniaeth i’w busnesau.”
Ers 2007, mae prosiectau'r UE wedi creu 48,700 o swyddi a 13,400 o fusnesau newydd a helpu 26,900 o fusnesau a 90,000 o bobl i gael gwaith.