Ar ddechrau Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, datgelodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, fod mwy na 55,000 o bobl ifanc ledled Cymru yn cymryd rhan mewn gweithdai bob blwyddyn er mwyn ystyried sut y gallant ddatblygu i fod yn entrepreneuriaid llwyddiannus.
Mae’r Modelau Rôl a ddarperir gan Syniadau Mawr Cymru wedi bod yn ymweld ag ysgolion, colegau, prifysgolion a mathau eraill o grwpiau ieuenctid i helpu myfyrwyr i ystyried sut y gallent ddechrau eu busnes eu hunain a ffynnu. Mae pob ysgol uwchradd yng Nghymru yn rhan o'r rhaglen erbyn hyn.
Yn sgil y gwaith hwn, mae gan 57 y cant o bobl o dan 25 mlwydd oed ddyhead i weithio drostyn eu hunain ac i fod yn feistri arnynt eu hunain.
Mae gwasanaeth Busnes Cymru, sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, wedi chwarae rhan hanfodol hefyd wrth helpu pobl i ddechrau busnesau drwy helpu entrepreneuriaid i greu 10,500 o fusnesau newydd ers 2013.
Mae'r gwasanaeth hefyd wedi cynnig cyngor busnes i dros 71,000 o ddarpar entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig.
Heddiw yw diwrnod cyntaf Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, pan fydd digwyddiadau'n cael eu cynnal i ysbrydoli ac i annog pobl drwy gyfrwng yr ecosystem entrepreneuraidd.
Yn ystod yr wythnos, bydd Syniadau Mawr Cymru yn helpu gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau entrepreneuraidd ledled Cymru, llawer ohonynt mewn colegau a phrifysgolion, gan orffen yr wythnos â'r Bŵt-camp blynyddol i Fusnesau – penwythnos preswyl dwys sy'n annog entrepreneuriaid ifanc i ddechrau busnesau.
Mae'r rhaglen Entrepreneuriaeth Ieuenctid, sy'n rhan o Busnes Cymru, yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru, ac mae'n annog y rheini sydd â diddordeb mewn dechrau busnes i fwrw ymlaen â'r syniad sydd ganddynt.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:
Mae Llywodraeth Cymru mor ymrwymedig ag erioed i annog ac i gefnogi'r feddylfryd gref o entrepreneuriaeth sydd gyda ni yma yng Nghymru.
Allwn ni ddim pwysleisio digon pa mor bwysig yw entrepreneuriaid i economi Cymru. Drwy annog rhagor o bobl ein hunain i ddechrau busnesau, bydd modd creu gwaith ar gyfer pobl a chyfleoedd iddynt fanteisio ar brentisiaethau, a bydd hynny, yn ei dro, yn arwain at Gymru fwy llewyrchus.
Drwy raglenni fel gwasanaeth Busnes Cymru, rydyn ni'n helpu pobl i ddatgloi eu creadigrwydd mewnol er mwyn llywio'u syniadau busnes a dechrau busnesau llwyddiannus.
Fel llywodraeth, byddwn ni'n parhau i gydweithio â phob sector i fagu hyder ein hentrepreneuriaid.
Mae Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd yn gyfle gwych i hyrwyddo ac i gynyddu entrepreneuriaeth ym mhob cwr o Gymru. Drwy Syniadau Mawr Cymru, rydyn ni hefyd wedi rhoi mwy o sylw a chymorth i'n hentrepreneuriaid ifancach, a dw i'n hynod falch o weld bod cymaint o fyfyrwyr wedi bod yn gysylltiedig â'r rhaglen honno.