Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Heddiw rwyf wedi cyhoeddi 11eg adroddiad blynyddol Cyflwr yr Ystad, sy'n amlinellu effeithlonrwydd a pherfformiad amgylcheddol ystad weinyddol Llywodraeth Cymru yn 2018-19.
Er gwaethaf y cyfyngiadau gwirioneddol o ganlyniad i gyni a chyllidebau cyfyngedig, mae'r ystad wedi perfformio yn dda yn ystod 2018-19. Yn ogystal â lleihau’r brif gost gymaint â 3%, rydym yn parhau i berfformio yn well na'r disgwyl o ran perfformiad amgylcheddol. Mae allyriadau CO2 yn awr 66% yn is na'n gwaelodlin yn 2010-2011, yn erbyn targed o 30%. Anfonwyd 88% o wastraff i gael ei ailgylchu, a chafodd 11% ei ddefnyddio at ddibenion cynhyrchu ynni, gan leihau’r cyfanswm a anfonwyd i safle tirlenwi i lai nag 1%.
Yn ogystal, mae'n rhaid i'n hymdrechion i leihau cost cynnal yr ystad ystyried ein haddewidion i drechu tlodi, cyflawni yn erbyn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd. Mae cynnal ystad wasgaredig yn cyfrannu at gyfleoedd gwaith a gweithgarwch economaidd lleol ledled cymunedau Cymru, ynghyd â darparu gwasanaethau cyhoeddus hygyrch.
Mae gwerthu’r swyddfeydd ym Mharc Bocam ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Hill House yng Nghaerfyrddin a Phenrallt Uchaf, Caernarfon wedi cyfrannu at leihau maint a chost yr ystad. Cost ystad weinyddol Llywodraeth Cymru ar gyfartaledd oedd £233.22 y metr sgwâr a £3,428 y gweithiwr cyflogedig ar 31 Mawrth 2019.
Mae'r gost fesul gweithiwr cyflogedig r yn cymharu'n ffafriol erbyn hyn â’r ffigur cyfatebol mwyaf diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.
Mae buddsoddiadau yn yr ystad gan gynnwys swyddfeydd newydd Doc Victoria, Caernarfon, ac ailwampio Teras Picton, Caerfyrddin hefyd wedi talu ar ei ganfed drwy leihau costau a defnydd ynni, gan ddiogelu swyddi gwerthfawr yn y sector cyhoeddus a mynediad at wasanaethau yn y trefi hyn. Mae gosod panelau ffotofoltäig solar ac inswleiddio ychwanegol yn Nheras Picton, Caerfyrddin wedi cyfrannu'n sylweddol at ein hymrwymiadau cynaliadwyedd amgylcheddol ac rydym yn parhau i wella bioamrywiaeth yn ein safleoedd.
Mae gwaith ar y cyd i gydleoli gwasanaethau gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus yn parhau i ddatblygu. Roedd yn bosibl adleoli ein staff a'n tenantiaid yng Nghaernarfon drwy ein gwaith ar y cyd â Chyngor Sir Gwynedd, ein landlord yn Noc Victoria, a Chomisiynydd y Gymraeg. Ym Mhowys, mae'r cynnig i gydleoli Llywodraeth Cymru yn Neuadd y Sir yn gwneud cynnydd da, ac mae ein tenantiaid sector cyhoeddus mewn trafodaethau i aros yn y dref yn yr ystad gyhoeddus bresennol. Yng Ngwynedd a Phowys, bydd yr eiddo gwag yn cael eu hailddatblygu yn dai angenrheidiol a phrosiectau adfywio.
Rydym yn wynebu llawer o heriau ac ansicrwydd yn ystod blwyddyn derfynol Strategaeth Leoli 2015-2020, a byddwn yn wynebu rhagor o heriau tebyg yn y dyfodol. Er y byddwn ni’n gallu gwneud gostyngiadau pellach ym maint ein hystad i leihau ein gorbenion ein hunain, mae angen inni arloesi a gweithio gyda'r sector cyhoeddus ehangach i sicrhau ein bod ni, gyda'n gilydd, yn defnyddio ein hadnoddau yn y ffordd orau bosibl er lles pobl Cymru.