Heddiw [dydd Llun 7 Tachwedd], bydd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans a Phrif Weithredwr Get Safe Online, Tony Neate, yn ymweld â Choleg Caerdydd a’r Fro i siarad â myfyrwyr am gadw’n ddiogel ar-lein.
Er y caiff Cymru ei chydnabod ar lefel ryngwladol yn y diwydiant a’r byd academaidd fel un o’r 28 o ganolfannau rhagoriaeth byd-eang mewn seiberddiogelwch, mae’r ffigurau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi yn ystod Wythnos Byddwch Ddiogel Ar-lein yn dangos bod llawer mwy o waith i’w wneud.
Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos y canlynol:
- nad yw dros hanner (55%) pobl Cymru yn medru defnyddio meddalwedd diogelwch y rhyngrwyd
- nad yw 66% o bobl Cymru yn diweddaru meddalwedd, systemau gweithredu a rhaglenni pan fyddant yn cael eu cymell i wneud hynny
- bod dros hanner (54%) yn clicio ar ddolenni ac atodiadau o ffynonellau anhysbys.
Ac er bod pobl ifanc 16-24 oed (Cenhedlaeth Z) yn credu mai nhw yw’r genhedlaeth fwyaf cyfrifol yn ddigidol, mae ganddynt lawer i’w ddysgu eto. Mae’r ystadegau diweddaraf i’w rhyddhau gan Get Safe Online ynghylch y DU yn dangos nad yw 64% o ‘Genhedlaeth Z’ yn ei ystyried yn risg i rannu lluniau o natur rywiol ar-lein.
Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd y Gweinidog Cyllid:
“Mae seiberdroseddu ar gynnydd, ac mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gan fusnesau a phobl o bob oed yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i adnabod arwyddion seiberdroseddau. Mae angen inni hefyd eu harfogi i allu cadw’n ddiogel ar-lein.
“Rydyn ni’n gweithio gyda’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a rhanddeiliaid, gan gynnwys Get Safe Online, i rannu arbenigedd a gwybodaeth newydd wrth inni ymdrechu i fod yn arweinwyr byd-eang ym maes seiberddiogelwch.
“Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â phobl ifanc sydd wedi cael eu magu gyda thechnoleg ar flaen eu bysedd, gan sicrhau ein bod yn dysgu o’u profiadau.”
Dywedodd Prif Weithredwr Get Safe Online, Tony Neate:
“Mae’n rhaid i gyfrifoldeb digidol fod yn sgwrs ddwy ffordd bob amser er mwyn parhau i wella ymddygiadau a sicrhau y caiff y rhyngrwyd ei ddefnyddio’n fwy diogel. Mae angen inni sicrhau bod y bobl hynny yn gwybod sut y gallant fod yn rhoi eu hunain, eu teulu, eu ffrindiau, eu harian a’u gwybodaeth bersonol mewn perygl. Felly, os gwelwch chi rywun yn rhannu gormod o wybodaeth, rhowch wybod iddyn nhw sut y gallan nhw rannu’r wybodaeth honno yn fwy cyfrifol.”