Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon os ydych wedi talu arian i ni drwy gamgymeriad, er mwyn trefnu iddo gael ei dychwelyd i chi.
Cyn i chi ddechrau
Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi'i chwblhau'n rhannol, felly gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth ganlynol gennych cyn dechrau.
Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch
I lenwi'r ffurflen ar-lein hon, byddwch angen:
- eich manylion
- eich rheswm dros y camgymeriad talu
- dyddiad a manylion y taliad gwreiddiol
- manylion cyfrif banc y person fydd yn derbyn yr ad-daliad
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.
Cymorth
Os oes angen help arnoch neu yr hoffech y ffurflen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.