Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon os ydych wedi cyflwyno ffurflen Treth Trafodiadau Tir gywir ond eich bod wedi talu mwy i ni nag y dylech fod wedi’i dalu.
Gallwch wneud cais am ad-daliad Treth Trafodiadau Tir os:
- mai chi yw prynwr yr eiddo y codwyd y gyfradd uwch arno
- ydych yn gyfreithiwr neu drawsgludydd a weithredodd ar ran y prynwr yn y pryniant gwreiddiol
- ydych yn rhywun arall sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu ar ran y prynwr
Fel arfer mae'n cymryd 15 i 20 diwrnod gwaith i brosesu eich cais. Gall gymryd mwy o amser os bydd angen mwy o wybodaeth arnom.
Cyn i chi ddechrau
Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi'i chwblhau'n rhannol, felly gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth ganlynol gennych cyn dechrau.
Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch
I lenwi'r ffurflen hon, byddwch angen:
- eich manylion
- manylion y prynwr arweiniol os ydyn nhw’n wahanol i'ch manylion chi
- manylion y trafodiad gwreiddiol
- Cyfeirnod Unigryw, 12 digid, y Trafodiad
- faint o dreth sydd i’w ad-dalu
- manylion cyfrif banc a chod didoli’r person fydd yn derbyn y taliad
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.
Cymorth
Os oes angen help arnoch neu yr hoffech y ffurflen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.