Mae'r adroddiad yn cynnig argymhellion ynghylch sut y gallai cynllun dychwelyd ernes (CDE) gael ei lunio a’i weithredu i fod mor effeithiol ag y bo modd.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif ganfyddiadau
Roedd bron tri-chwarter o’r oedolion a gymerodd ran yn yr arolwg o blaid CDE. Dywedodd rhwng 77% a 83% o gyfranogwyr yr arolwg y byddent yn defnyddio CDE bob tro neu gan amlaf. Codwyd rhai pryderon ymarferol o amgylch CDE gan gyfranogwyr yn y grwpiau trafod.
Roedd y canfyddiadau yn awgrymu y gallai pobl hŷn, y rhai mewn grwpiau cymdeithasol is, a'r rhai hynny nad oes car ganddynt ar gyfer yr aelwyd ei chael hi’n anoddach defnyddio CDE am resymau ymarferol ac ariannol.
Dywedodd ychydig o dan hanner y cyfranogwyr 16 i 24 oed ac 11 i 15 oed yr arolwg y gallai CDE leihau nifer y poteli neu'r caniau y maent yn eu prynu o lawer neu ychydig. Dim ond 5% o'r oedolion a 3% o’r plant a gymerodd ran yn yr arolwg a ddywedodd y byddent yn rhoi'r gorau i brynu'r mathau hyn o gynwysyddion yn gyfan gwbl.
O ran lefel yr ernes, 10c oedd y swm mwyaf poblogaidd ymhlith cyfranogwyr yr arolwg (37%). Gwelwyd mwy o gefnogaeth i ernes o 10c gan bobl hŷn a'r rhai hynny sydd mewn grwpiau cymdeithasol is.
Ystyriwyd mai'r cynllun ‘hollgynhwysol’, sef bod pob cynhwysydd yn cario'r un gost ar gyfer ernes ni waeth beth yw ei faint, yw’r cynllun mwyaf effeithiol.
Roedd yr arolwg yn cynnwys cyfres o gwestiynau gyda'r nod o ddarparu gwell ddealltwriaeth o'r ffactorau pwysicaf a ystyrir gan bobl wrth iddynt benderfynu defnyddio CDE, neu beidio. Lleoliad y pwyntiau dychwelyd oedd y sbardun mwyaf o ran y tebygolrwydd o ddefnyddio CDE, ac yna yr amser ychwanegol y mae’n ei gymryd i ddychwelyd y cynwysyddion. Roedd yr ymatebwyr o’r farn bod swm yr ernes yn llai pwysig.
Adroddiadau
Ymchwil gyda defnyddwyr i arwain y gwaith o lunio cynllun dychwelyd ernes effeithiol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB
Ymchwil gyda defnyddwyr i arwain y gwaith o lunio cynllun dychwelyd ernes effeithiol: cyrnodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 549 KB
Cyswllt
Isabella Malet-Lambert
Rhif ffôn: 0300 062 8250
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.