Gwerthusiad annibynnol o ail flwyddyn y broses o weithredu Cynnig Gofal Plant Cymru.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthuso’r Cynnig Gofal Plant i Gymru
Mae canfyddiadau gwerthusiad yr ail flwyddyn yn gadarnhaol ar y cyfan. Mae’r rhan fwyaf o’r rhieni yn dweud eu bod naill ai ar eu hennill yn ariannol, yn medru fforddio mwy o ofal plant ffurfiol a/neu wedi gwella eu rhagolygon o ran cyflogaeth, ac mae darparwyr yn adrodd am effeithiau cadarnhaol o ran cynaliadwyedd a phroffidioldeb.
Mae’r gwerthuswyr wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth bellach i:
- annog mwy o gysondeb mewn polisïau addysg y blynyddoedd cynnar ar draws Cymru er mwyn sicrhau cynaliadwyedd a hyfywedd ehangach y Cynnig Gofal Plant
- symleiddio darpariaeth y Cynnig wrth ystyried polisïau yn y dyfodol o ran ei ddarparu, a datblygu gweledigaeth ar gyfer system integredig Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar
- sicrhau bod rhagor o wybodaeth, arweiniad a sefyllfaoedd enghreifftiol ar gael i rieni a darparwyr ynghylch y gofal plant wedi’i ariannu gan y Cynnig sydd ar gael yn ystod gwyliau’r ysgol
- y ffordd mae gofal plant wedi’i ariannu yn ystod gwyliau’r ysgol wedi’i gynnwys yn y Cynnig
- adolygu’r gyfradd gyllido bresennol sy’n cael ei thalu i ddarparwyr sy’n darparu gofal plant wedi’i ariannu gan y Cynnig
- darparu rhagor o wybodaeth ac arweiniad i awdurdodau lleol a darparwyr er mwyn eu galluogi i gael gwell dealltwriaeth o’r ffordd y gellid neu y dylid defnyddio’r grant cymorth ychwanegol
- darparu rhagor o wybodaeth ac arweiniad yn ymwneud â thaliadau ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol yn ogystal â darparwyr, o bosib wrth ochr enghreifftiau o gontractau ac anfonebau sampl
- parhau i ganolbwyntio ar fwy o wybodaeth gliriach i rieni ar yr amrywiol opsiynau ariannu sydd ar gael i helpu gyda chostau gofal plant.
- gweithredu system weinyddu ganolog genedlaethol cyn gynted â phosib
- parhau i roi gwybodaeth, arweiniad a chymorth i awdurdodau lleol mewn perthynas â nodi a gwirio cymhwysedd cyflogaeth rhai rhieni hunangyflogedig.
Newidiadau i'r adroddiadau
Ar 07 Ionawr 2020 cywirwyd gwall ar y tudalennau canlynol:
Tudalen 9 o’r crynodeb gweithredol Cymraeg a Saesneg.
Tudalen 58 o’r adroddiad llawn Saesneg.
Tudalen 59 o’r adroddiad llawn Cymraeg.
Roedd y gwall hwn yn datgan bod '39% o’r rhieni wedi defnyddio gofal plant cyfrwng Cymraeg', ac mae hyn wedi’i gywiro i ddweud bod '39% o’r rhieni wedi defnyddio gofal plant cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog'.
Adroddiadau
Gwerthuso’r Cynnig Gofal Plant i Gymru: blwyddyn 2 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Gwerthuso’r Cynnig Gofal Plant i Gymru: blwyddyn 2 (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 677 KB
Cyswllt
Katrina Morrison
Rhif ffôn: 0300 025 8528
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.