Mae’r adroddiad yma yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil gydag amrywiaeth o rhanddeiliaid ynglŷn â rôl a swyddogaeth gwasanaethau nyrsio ysgol.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad Rhaglen Plant Iach Cymru
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif ganfyddiadau
- Mae’r ymchwil yn dangos gwerth gwasanaethau nyrsys ysgol yng Nghymru, er bod y gwasanaeth a ddarperir yn amrywio.
- Mae’r rhaglen imiwneiddio genedlaethol yn elfen lwyddiannus o wasanaethau nyrsys ysgol ond adroddir ei bod yn galw am lawer o amser i’w chyflawni.
- Mae’r rhaglen sgrinio yn helpu i ddod o hyd i blant sydd â nam ar eu golwg neu ar eu clyw yn gynnar.
- Mae’r cymysgedd sgiliau wrth gyflwyno rhaglenni o’r fath yn amrywio, ac mae angen eglurder ynghylch pa weithgareddau y dylid (ac na ddylid) eu dirprwyo.
- Ceir cwestiynau ynghylch eglurder y Rhaglen Mesur Plant a’r sail resymegol ar ei chyfer.
- Cafodd rôl y nyrs ysgol i ddiogelu plant ei chwestiynu, gan ystyried y goblygiadau o ran adnoddau a’r wybodaeth gyfyngedig ynghylch y rheini sydd ynghlwm wrth yr achosion hyn.
- Awgrymwyd y dylai gwasanaethau nyrsys ysgol roi mwy o ffocws ar hybu iechyd, er mwyn cyflawni rôl fwy ataliol.
- Nid oes system ar waith i dargedu ardaloedd lle ceir amddifadedd gyda gwasanaethau nyrsys ysgol mwy dwys.
- Adroddwyd bod angen buddsoddi mewn nyrsys ysgol, gan ystyried y cynnydd mewn galw a’r ymrwymiad a amlinellir ym mholisïau Llywodraeth Cymru.
Goblygiadau ar gyfer gwasanaethau nyrsys ysgol yn y dyfodol
Mae’r mesurau allweddol i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid eu hystyried yn cynnwys:
- ailystyried y sail resymegol ar gyfer y Rhaglen Mesur Plant
- gweithio gyda gwasanaethau cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill i ystyried pa mor berthnasol yw rôl nyrsys ysgol mewn achosion diogelu plant a pha mor werthfawr ydyw
- diffinio beth y byddai’n briodol ei wneud fel lleiafswm wrth baratoi rhaglen o weithgareddau hybu iechyd i’w cynnal gan wasanaethau nyrsys ysgol
- cynnal archwiliad o dimau nyrsys ysgol i gael eglurder ynghylch faint yn union o staff, bylchau o ran adnoddau a diffygion a geir
- diffinio strwythur staff delfrydol yn seiliedig ar gymysgedd sgiliau priodol ac egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus
- cyflwyno system ffurfiol ar gyfer monitro a gwerthuso gwasanaethau nyrsys ysgol, gan gynnwys dangosyddion perfformiad allweddol perthnasol ac ystyrlon
- ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer sicrhau bod byrddau iechyd yn buddsoddi yn y staff a’r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni rhaglenni allweddol
- ystyried cyfleoedd ar gyfer rhaglen genedlaethol sy’n darparu cymorth mwy dwys drwy wasanaethau nyrsys ysgol mewn ardaloedd lle ceir llawer o amddifadedd.
Adroddiadau
Gwasanaethau nyrsio mewn Ysgolion yng Nghymru: adroddiad cwmpasu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Gwasanaethau nyrsio mewn Ysgolion yng Nghymru: adroddiad cwmpasu (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 779 KB
PDF
779 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Tîm ymchwil iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
Rhif ffôn: 0300 025 6543
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.