Data yn ôl oedran, awdurdod lleol, dull astudio ac incwm gweddilliol ar gyfer Medi 2019 i Awst 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru (addysg bellach)
Mae’r data, sy’n seiliedig ar geisiadau a dderbyniwyd erbyn 31 Gorffennaf 2020, yn gywir ar 5 Awst 2020.
Prif bwyntiau
Gwnaeth cyfanswm o 5,305 o fyfyrwyr mewn AB gais am y Grant yn 2019/20, sy’n ostyngiad o 5.5% o gymharu â 2018/19. O’r ceisiadau hyn, roedd 4,435 yn llwyddiannus, sy’n ostyngiad o 7.3% o gymharu â 2018/19. O ganlyniad, talwyd gwerth £4.9 miliwn o Grantiau i fyfyrwyr AB yn 2019/20, o gymharu â’r £5.1 miliwn a dalwyd yn 2018/19. Roedd 4,085 (92.2%) o geisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr amser llawn a 325 (7.3%) o geisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr rhan-amser.
Mae 83.5% o’r ceisiadau a ddaeth i law yn geisiadau llwyddiannus o’u cymharu â 85.2% yn 2018/19. Mae cyfran y ceisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr amser llawn yn parhau i fod yn uchel, sef tua 97.0%, a’r ffigur cyfatebol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser yn 80.0%. Roedd 3,035 (74.3%) o geisiadau amser llawn llwyddiannus a 235 (72.9%) o geisiadau rhan-amser llwyddiannus gan fyfyrwyr ag incwm gweddilliol o £6,120 neu lai, ac felly dyfarnwyd iddynt y symiau grant llawn. Roedd 1,625 (39.8%) o geisiadau amser llawn llwyddiannus a 75 (22.8%) o geisiadau rhan-amser llwyddiannus gan fyfyrwyr 21 oed neu iau.
Adroddiadau
Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru: addysg bellach, Medi 2019 i Awst 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.