Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Yn gynharach eleni, cyhoeddais becyn buddsoddi cyfalaf gwerth £85 miliwn i roi hyder a sicrwydd i fusnesau Cymru mewn cyfnod o ansicrwydd parhaus oherwydd Brexit.
Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i baratoi, a helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i baratoi at Brexit drwy fynd ati i leihau’r canlyniadau negyddol o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd cyhyd ag sy’n bosibl.
Heddiw, rwy’n cyhoeddi hwb ychwanegol o £130 miliwn o gyllid eleni ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf allweddol er mwyn cynyddu’r hyder a’r sicrwydd i fusnesau a’r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Rwy’n dyrannu £53 miliwn yn ychwanegol i gefnogi busnesau wrth iddynt wynebu Brexit ac rwy’n darparu buddsoddiad ychwanegol ar gyfer datblygiadau’r dyfodol, gan gynnwys:
- £30 miliwn mewn cynlluniau tai, gan gynnwys £10 miliwn ar gyfer ffatrïoedd modiwlar.
- £19 miliwn mewn teithio llesol a mynd i'r afael â mannau cyfyng ar ein ffyrdd.
- £20 miliwn ar gynnal a chadw ysgolion a cholegau.
- £7 miliwn i gefnogi ein hamgylchedd, gan gynnwys £4 miliwn ar gyfer Parciau Cenedlaethol.
- £1 miliwn ar gyfer cronfa fenthyca ar gyfer asedau cymunedol i helpu i wneud cyfleusterau cymunedol yn gynaliadwy i'r dyfodol.
Un elfen yn unig yw’r buddsoddiadau newydd hyn o’r rhaglen gyfalaf gynhwysfawr ac uchelgeisiol y mae’r Llywodraeth hon yn parhau i’w darparu.
Ers cyhoeddi’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru yn 2012, ein bwriad yw buddsoddi bron £15 biliwn erbyn 2020-21 gan helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i gynllunio yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Rwyf hefyd heddiw yn cyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae’r fersiwn hon yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiadau arfaethedig mewn seilwaith. Mae hefyd yn amlinellu dros £33 biliwn o fuddsoddiad ar draws ystod eang o brosiectau yn y sector cyhoeddus a phreifat..
Yn ogystal ag ymateb i’r heriau cyfredol, rhaid inni gynllunio ar gyfer anghenion seilwaith Cymru ar gyfer y dyfodol ynghyd ag uchelgeisiau newydd. Mae’r cyllid a gyhoeddir heddiw i gefnogi mesurau i ymateb i’r argyfwng hinsawdd ac i ddiogelu amgylchedd prydferth Cymru yn gamau pwysig o’r daith honno.
Wrth inni fynd ati i bennu cyllidebau ar gyfer y dyfodol, rwyf wedi ymrwymo i ddefnyddio ein hysgogiadau cyfalaf i gefnogi Cymru wyrddach. Byddaf yn amlinellu manylion pellach yn y Gyllideb ddrafft ar 19 Tachwedd.