Mae Cymru yn parhau i gynnig rhai o'r safleoedd glanaf yn Ewrop ar gyfer dŵr ymdrochi, yn ôl ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw.
Mae Canlyniadau Ansawdd Dŵr Ymdrochi 2019 yn dangos bod Cymru, unwaith eto, wedi cydymffurfio'n 100% â'r safonau ansawdd dŵr ymdrochi ym mhob un o'i 105 o safleoedd dŵr ymdrochi dynodedig.
Yn dilyn gwaith samplu dŵr yn ystod yr haf gan Gyfoeth Naturiol Cymru, enillodd 83 ardal sgôr uchaf yr UE, sef 'rhagorol', yn uwch na ffigur y llynedd o 78. Ni roddwyd yr un ardal yn y categori 'gwael'. Dŵr ymdrochi o'r safon uchaf yw un o'r meini prawf allweddol mae angen eu bodloni i ennill y Faner Las enwog.
Mae ardaloedd ymdrochi a enillodd y sgôr 'rhagorol' heddiw yn cynnwys Porth Eirias, Bae Oxwich a Southerndown.
Mae'r ystadegau a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn rhoi hwb arall i dwristiaeth ar hyd arfordir Cymru. Mewn haf llwyddiannus ar gyfer arfordir Cymru, cafodd Traeth y Castell, Dinbych y Pysgod, ei enwi'n draeth y flwyddyn y Sunday Times ynghynt eleni – un o'r tri thraeth yng Nghymru yn y 10 Uchaf ac un o'r wyth yn y 40 Uchaf.
Gwnaeth Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, groesawu'r ystadegau. Dywedodd hi:
Mae pawb yn gwybod bod arfordir Cymru yn cynnig rhai o’r ardaloedd mwyaf syfrdanol yn Ewrop, ac mae'r ystadegau hyn yn dangos bod gennyn ni rai o'r safleoedd glanaf yn Ewrop ar gyfer dŵr ymdrochi hefyd. Nid drwy hap a damwain y digwyddodd hyn – hoffwn i ganmol ein partneriaid, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru ac awdurdodau lleol, sydd i gyd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynnal ansawdd uchel ein dŵr ymdrochi.
Ychwanegodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:
Mae hyn yn gyflawniad gwych, enghraifft wirioneddol o weithio fel tîm, ac mae'n dangos pa mor ymroddedig mae Cymru i ddiogelu ein hasedau naturiol gwych ar gyfer ymwelwyr, yn ogystal â thrigolion a chymunedau. Mae cynaliadwyedd yn ganolog i'r cynllun gweithredu newydd ar gyfer yr Economi Ymwelwyr, a byddwn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid i ddarparu profiad o'r radd flaenaf ar gyfer ymwelwyr, wrth ofalu am ein hasedau naturiol ar yr un pryd.
Dywedodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae sicrhau bod ein dŵr ymdrochi yn ddiogel ac yn lân ar gyfer pobl a bywyd gwyllt yn rhan enfawr o'n gwaith ni, ac rydyn ni'n arbennig o falch bod pob un o'n 105 o safleoedd dŵr ymdrochi dynodedig yn parhau i fodloni safonau ansawdd yr UE. Rydyn ni'n parhau i ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid i wella a gwarchod arfordir gwych Cymru, ac i gynnal y safonau uchaf ar gyfer y rhai sy'n gweithio, chwarae a byw yn ac o amgylch ein dyfroedd.