Mae cynllun prentisiaeth yn y sector gofal cymdeithasol yn Sir Fynwy a chanolfan awtistiaeth arbenigol yn Nantgarw ymhlith 12 o brosiectau gofal cymdeithasol a osodwyd i rannu mwy na £1,000,000 gan Lywodraeth Cymru i brofi ffyrdd newydd o wella a thrawsnewid rhannau bob dydd economi Cymru.
Cafodd y newyddion ei gyhoeddi gan Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, pan oedd ar ymweliad â Drive. Mae'r prosiect hwn, sydd wedi'i leoli yn Nantgarw ac sy'n helpu pobl ag anableddau dysgu, hefyd wedi cael cyllid.
Mae 12 o brosiectau arbrofol wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol oherwydd bod ganddynt botensial i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Mae'r Gronfa wedi'i thargedu at brosiectau arloesol sy'n edrych ar gysyniadau newydd i gefnogi'r sector.
Mae'r Economi Sylfaenol yn seiliedig ar y nwyddau a'r gwasanaethau o ddydd i ddydd y mae ar bob un ohonom eu hangen ac sy'n cael eu defnyddio gennym ni oll. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i fabwysiadu dull 'yr Economi Sylfaenol', sy'n cael ei roi ar waith mewn dinasoedd ac ardaloedd ar draws y byd.
Nod Cronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru yw gyrru ffyniant ledled Cymru a chynnig cymorth i'r cymunedau hynny ym mhob cwr o Gymru sy'n teimlo eu bod nhw wedi cael eu neilltuo a'u bod yn cael eu gadael ar ôl. Gan fod y ceisiadau i'r gronfa wedi bod o safon uchel, mae ei chyllideb ar gyfer Cymru gyfan wedi cael ei threblu fwy neu lai i tua £4.5 miliwn.
Mae Drive wedi ennill £75,000 o'r gronfa i ddatblygu prosiect sy'n bodoli eisoes yn ganolfan ar gyfer pobl ag awtistiaeth. Bydd y cyllid hefyd yn cynnig hyfforddiant arbenigol i nyrsys anableddau dysgu fel y gallant ddysgu am gefnogi pobl ag awtistiaeth, gan gynnwys y rhai sy'n gallu herio gwasanaethau.
Dywedodd Rhian Jones, Prif Weithredwr Drive:
Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi cael yr arian hwn, a fydd yn cael ei ddefnyddio i drawsnewid prosiect garddwriaeth sy'n bodoli eisoes yn ganolfan awtistiaeth arbenigol sydd ei hangen yn fawr. Mae diffyg darpariaeth ar gyfer pobl ag awtistiaeth yn yr ardal, yn enwedig pobl ifanc sy'n trosglwyddo o'r ysgol i fod yn oedolion, ac rwy'n gwybod y bydd y prosiect hwn yn atal rhai oedolion ifanc rhag gorfod symud i leoliadau y tu allan i'r sir i gael cymorth arbenigol. Mae wedi'i leoli mewn lleoliad prydferth gyda chaban log a thwneli poly, a bydd yn darparu lle tawel i ddysgu sgiliau newydd ym maes garddwriaeth, ennill cymwysterau, a symud ymlaen i gyfleoedd cymunedol eraill yn yr ardal.
Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Rydw i'n falch fod Cronfa Her yr Economi Sylfaenol yn mynd i fod yn cefnogi 12 o brosiectau gofal cymdeithasol arloesol y bydd cymunedau ym mhob cwr o Gymru yn cael budd mawr ohonyn nhw. Bydd y gronfa yn rhoi cymorth i amryw o brosiectau peilot ym maes gofal cymdeithasol sydd wedi'u targedu at ddatblygu'r sector a rhoi hwb i'r defnyddwyr gwasanaethau a fydd yn manteisio arnyn nhw. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi rhai dulliau newydd diddorol a chreadigol o ddarparu gofal cymdeithasol ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r 12 o brosiectau dros y misoedd sydd i ddod a chlywed mwy amdanyn nhw.
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi:
Mewn cyfnod o ansicrwydd mawr mae ein Cronfa Her yr Economi Sylfaenol wedi'i chynllunio i dreialu dulliau newydd o newid y ffordd y mae'r economi leol yn gweithio, a'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu.
Rydyn ni'n arbrofi gyda 52 o wahanol brosiectau ledled Cymru, 12 ohonyn nhw ym maes gofal cymdeithasol.
Mae gofal yn rhan allweddol o'r economi sylfaenol, mae'n un o'r pileri craidd sy'n ein cadw'n ddiogel, yn gadarn ac yn wâr. Ond ar hyn o bryd fe'i nodweddir yn rhy aml fel rhan o sgiliau isel a chyflogau isel yn yr economi, lle nad yw anghenion y person y gofelir amdano'n aml yn ganolbwynt.
Rydyn ni'n treialu dwsin o ymyriadau newydd i wneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl ledled Cymru sy'n derbyn gofal, neu sy'n rhoi gofal. A byddwn yn gwylio'n ofalus i weld beth y gallwn ei ddysgu a'i ledaenu.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y prosiectau sydd wedi cael cyllid ar wefan Busnes Cymru.