Daeth yr ymgynghoriad i ben 10 Chwefror 2012.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Dyma ymgynghoriad ar y cyd ar y cynigion o ran targedau adfer ac ailgylchu newydd ar gyfer 2013-17.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Daeth y Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr ar ddeunydd pacio i rym ar 16 Mawrth 2007. Dyma ymgynghoriad ar y cyd ar y targedau newydd gan:
- Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig (Defra);
- Llywodraeth yr Alban; a
- Llywodraeth Cymru.
Ers 1997 mae gan y DU gynllun ar gyfer y cyfrifoldeb statudol sydd gan gynhyrchwyr i ailgylchu deunydd pacio sy’n gweithredu’r Gyfarwyddeb Deunydd Pacio Ewropeaidd. Mae’r cynllun hwn yn delio â deunydd pacio sydd wedi dod i ddiwedd ei oes mewn ffordd sy’n well i’r amgylchedd ac adnoddau naturiol na’i anfon i safleoedd tirlenwi. Bydd yn gwneud hyn trwy osod targedau ailgylchu ac adfer gofynnol i fusnesau yn y DU sydd yn y gadwyn cyflenwi deunydd pacio.
Mae’r targedau presennol yn rhedeg tan 2012. Rydym am gael eich barn a’ch cynigion am dargedau newydd ar gyfer adfer ac ailgylchu fydd yn rhedeg am bum mlynedd o’r 1 Ionawr 2013.
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 10 Chwefror 2012. Roedd yn gofyn am sylwadau ar dargedau deunydd pacio'r DU ar gyfer 2013-2017.
Ar 21 Mawrth 2012 cyhoeddwyd targedau deunydd pacio newydd y DU fel rhan o’r Gyllideb. Ceir rhagor o wybodaeth am y targedau a chrynodeb o’r ymatebion isod.
Ewch i: Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig.
Gallwch hefyd weld targedau adfer ac ailgylchu’r DU ar gyfer 2013-17 ar wefan Defra.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK