Bydd y seremoni swyddogol i efeillio Castell Himeji a Chastell Conwy yn cael ei chynnal heddiw yn Himeji.
Cafodd y cam cyntaf i efeillio'r ddau safle, sy'n Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, eu cymryd ym mis Gorffennaf 2018 pan fu Maer Himeji ar ymweliad â'r Gogledd a phan ymunodd â Maer Conwy i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ‒ y cyntaf o'i fath yn y DU. Bydd dirprwyaeth o Gonwy yn bresennol mewn seremoni swyddogol yn Himeji heddiw ac yn llofnodi Cytundeb Cydweithredu er mwyn selio'r broses efeillio.
Nos Lun, bydd muriau Castell Conwy yn cael eu goleuo â thafluniad o'r geiriau Conwy + Himeji er mwyn dathlu'r gefeillio.
Nod y gefeillio yw ‒ hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy ar y ddau safle; defnyddio prosiectau addysgiadol i hyrwyddo gwybodaeth am y cestyll, am eu hanes a'r cymunedau o'u hamgylch; a chyfnewid sgiliau ac arbenigedd drwy gynnal gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon ar y cyd.
Mae Llywodraeth Cymru a Cadw wedi cefnogi'r cynnig ac mae Cadw wedi paratoi fersiwn arbennig o'r arweinlyfr i Gastell Conwy mewn Japaneeg er mwyn nodi'r datblygiad hwn.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:
“Dyma'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth cyntaf o'i fath yn y DU – mae gefeillio cestyll mor ysblennydd â'r rhain yn ffordd ardderchog o ddathlu'r hyn sy'n wahanol rhyngom ac o ddyfnhau'n dealltwriaeth ddiwylliannol. Ar ôl gweld y croeso a'r diddordeb yng Nghymru ymhlith ein cyfeillion yn Japan yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd, bydd y gefeillio hwn yn atgyfnerthu'r cyfeillgarwch sydd rhyngom yn ogystal â gwella cyfleoedd ym maes busnes, twristiaeth a diwylliant rhwng ein dwy wlad.
Mae'r gefeillio hwn yn adeiladu ar waith a wnaed yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid yn y diwydiant i feithrin perthynas gref â Chymdeithas Asiantaethau Teithio Japan (JATA) er mwyn cyflwyno Cymru fel cyrchfan i dwristiaid yn y farchnad yn Japan.
Bedair blynedd yn ôl, nid oedd aelodau JATA yn cynnig unrhyw wyliau pecyn i Gymru, ond ar ôl i Gonwy a'r Gogledd gael gwobrau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafodd mwy na 4,000 o dwristiaid o Japan y cyfle i brofi harddwch a rhyfeddodau Cymru ar deithiau pecyn a drefnwyd gan JATA, gan hoelio sylw ar y Gogledd.
Dywedodd Jim Jones, Twristiaeth Gogledd Cymru:
“Megis dechrau mae’r erthynas wych ac ystyrlon rhwng Conwy a Himeji. Bu’n rhaid wrth lawer o waith caled gan lawer o bobl yn y ddwy dref er mwyn inni gyrraedd y man hwn, ac mae’n amser bellach inni ddathlu’r cysylltiad cwbl unigryw hwn. Rydyn ni’n gobeithio bydd y sylw a gaiff y gefeillio â Himeji yn denu llawer o ymwelwyr o Japan i Gonwy, i’r Gogledd ac i Gymru, ac y bydd hefyd yn ysbrydoli pobl o Gymru i ymweld â’n cyfeillion yn Japan. Mae busnesau a thrigolion Conwy wedi mynd y filltir ychwanegol dros ein hymwelwyr o Japan, drwy gael gwersi Japaneeg, drwy greu fideo i’w croesawu, a dysgu am ddiwylliant Japan, er mwyn i ymwelwyr gael croeso eithriadol o gynnes yn y dref. Rydyn ni’n llawn cyffro am y berthynas hon, a fydd yn ffynnu yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.
Dywedodd Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:
“Cymru a Japan ‒ dwy wlad sydd wedi’u gwreiddio mewn traddodiadau hynafol ac sy’n fwrlwm o ddiwylliant cyfoes. Drwy’r cynllun unigryw hwn i efeillio cestyll Conwy a Himeji, rydyn ni’n dathlu’n treftadaeth, ydyn, ond rydyn ni hefyd yn rhannu’n diwylliannau drwy’n hartistiaid a’n cymunedau. Mae’r perfformiad yn y seremoni efeillio gan y cerddor o Gymru a’r delynores Frenhinol newydd, Alis Huws, yn gychwyn ar gyfleoedd newydd i drefnu teithiau cyfnewid ym maes y celfyddydau a diwylliant rhwng Conwy a Himeji a rhwng Cymru a Japan. Rydyn ni’n hynod falch y bydd Ena Mai, masgot y rhaglen ddiwylliannol rhwng Cymru|Wales – Japan, sy’n gysylltiedig â Chwpan Rygbi’r Byd, yn cefnogi’r gefeillio.