Daeth yr ymgynghoriad i ben 12 Chwefror 2016.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 396 KB
Ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 12 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd sylwadau ar gyflwyno Unedau Cwarantîn yn lle'r trefniadau presennol gwaharddiad symud gwartheg, defaid a geifr am 6 niwrnod.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Cyflwynwyd rheolau gwahardd symud da byw yn sgîl yr achosion o glefyd y traed a’r genau yn 2001. Cyn hynny nid oedd unrhyw waharddiad symud yn bodoli ac ystyrid fod symud da byw yn sylweddol gyfrifol am ledaenu clefydau. O dan y rheolaethau presennol pan fydd da byw’n cael eu symud ar ddaliad bydd cyfnod o waharddiad symud yn dechrau a fydd yn atal unrhyw dda byw rhag cael ei symud oddi ar y daliad heblaw i’r lladd-dy.
Caniateir nifer o eithriadau i’r rheolau gwahardd symud er mwyn gallu cynnal rhai gweithgareddau busnes penodol ar adegau arbennig o’r flwyddyn. Er y gallai’r eithriadau hyn gynyddu’r perygl y bydd clefydau’n lledaenu rhaid cydbwyso’r perygl hwnnw yn erbyn anghenion lles a rheoli anifeiliaid. Rhestrir y rheolau gwahardd symud a’r eithriadau yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau 2003.
Comisiynwyd yr Adroddiad “Hwyluso’r Drefn” yn 2011 i edrych ar y balch rheoliadol oedd ar ffermwyr a rheolwyr tir. Roedd yr adroddiad yn amlygu pa mor amhoblogaidd oedd y gwaharddiad symud chwe niwrnod ar gyfer gwartheg defaid a geifr. Ystyriwyd bod yr eithriadau niferus yn rhy gymhleth ac anodd eu deall.
Rydyn ni wedi cydnabod bod modd symleiddio’r rheolau. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r diwydiant ffermio partneriaid gweithredol a rhanddeiliaid eraill i greu gwelliant derbyniol i’r rheolau presennol ar wahardd symud da byw. Mae’r cynigion a ddisgrifir yn fwy manwl yn y ddogfen ymgynghori yn cynnig defnyddio Unedau Cwarantîn fel eithriad i’r trefniadau gwaharddiad symud cyffredinol.