Daeth yr ymgynghoriad i ben 8 Chwefror 2016.
Crynodeb o’r canlyniad
Gellir gweld canlyniad yr ymgynghoriad hwn ar wahân ar gov.uk (dolen allanol, Saesneg yn unig)
Ymgynghoriad gwreiddiol
Nod yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar y cynigion i ddisodli esemptiad T17. Mae hwnnw'n caniatáu i diwbiau fflworoleuadau sy'n wastraff ac sy'n cynnwys mercwri gael eu malu o dan drwydded pwrpasol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i anelu’n bennaf at bawb sy’n gweithredu cyfleusterau neu gyfarpar sy’n trin a thrafod lampiau sy’n cynnwys mercwri. Bydd o ddiddordeb i bob busnes ledled Cymru a Lloegr.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i anelu at y canlynol (ond nid y rhain yn unig):
- y rheini sy’n gweithredu cyfleusterau gwastraff trwyddedig a chyfleusterau sydd wedi’u hesemptio
- awdurdodau lleol
- y rheini sy’n cynhyrchu gwastraff
- broceriaid a delwyr gwastraff
- cludwyr gwastraff
- sefydliadau proffesiynol a sefydliadau aelodaeth
- busnesau ac
- ymgynghorwyr a
- chyrff elusennol/gwirfoddol.
Pwrpas yr ymgynghoriad oedd ceisio barn ar y cynigion i reoleiddio malwyr lampiau mercwri.