Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit
Ar 10 Hydref yng Nghaeredin roeddwn yn bresennol yng nghyfarfodydd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) a Chyd-bwyllgor y Gweinidogion (Ewrop).
Canolbwyntiodd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ar barodrwydd, rôl y Deddfwrfeydd Datganoledig yn y negodiadau a'r Fframweithiau Cyffredin. O ran parodrwydd, pwysleisiais safbwynt Llywodraeth Cymru, er bod cynnydd wedi ei wneud ers diwedd mis Mawrth, nad yw'n bosibl lliniaru'n llawn holl ganlyniadau ymadael â'r UE ac mai safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd yw na ddylai'r DU ymadael â'r UE. Pwysleisiais fod angen i Lywodraeth y DU gynnwys y Llywodraethau Datganoledig yn fwy wrth gynllunio ar gyfer ymadael heb gytundeb. Mae angen i Lywodraeth Cymru gadw golwg ar yr holl faterion a allai effeithio ar Gymru ni waeth a yw'r materion hynny'n ymwneud â phwnc sydd wedi ei gadw i Lywodraeth y DU. Mynnais hefyd ymrwymiadau y bydd cyllid penodol ar gael drwy gynllun "Kingfisher" y DU.
O ran y negodiadau, pwysais am fwy o rôl i'r Llywodraethau Datganoledig. Mae'r diffyg rhannu gwybodaeth a'r diffyg ymdrech gan Lywodraeth y DU i gytuno ar safbwyntiau'r DU â'r Llywodraethau Datganoledig wedi methu bodloni cylch gorchwyl Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE).
O ran y Fframweithiau Cyffredin, yr hyn sy'n peri pryder yw effaith bosibl datganiadau croes gan Lywodraeth y DU ar ei hymrwymiad i safonau cyffredin mewn perthynas â dadreoleiddio. Yng nghyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) byddwn yn adolygu sut y gall trefniadau'r Fframweithiau Cyffredin gyflawni eu hamcanion gwreiddiol o ganlyniad i'r tensiwn hwn.
Canolbwyntiodd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Ewrop) ar bresenoldeb Llywodraeth y DU yng nghyfarfodydd yr UE, blaenoriaethau ar gyfer cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ym mis Hydref, ymwneud Llywodraeth y DU â'r Comisiwn UE newydd a diweddariad ar lafar gan Jake Berry AS, y Gweinidog Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin arfaethedig.
O ran presenoldeb yng nghyfarfodydd yr UE, mynegais fy siom fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu tynnu'n ôl o rai o gyfarfodydd yr UE heb ymgynghori ymlaen llaw â'r Llywodraethau Datganoledig, er bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod i gyfarfodydd yn absenoldeb swyddogion Llywodraeth y DU. Galwais hefyd ar i fanylion cyfarfodydd na fydd swyddogion Llywodraeth y DU yn bresennol ynddynt gael eu rhannu i sicrhau y gall Llywodraethau Datganoledig lunio barn mewn modd gwybodus.
Mewn perthynas â'r eitem agenda ynglŷn â'r Fframwaith Ariannol Amlflwydd yng nghyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ym mis Hydref, galwais am esboniad ar fyrder ar gynigion ynghylch cyfranogiad y DU mewn rhaglenni ar ôl Brexit ac i sicrhau y cydnabyddir buddiannau'r Llywodraethau Datganoledig mewn meysydd allweddol.
Mae parhau i ymwneud â'r Comisiwn UE newydd yn hanfodol a phwysleisiais y bydd angen ystyried barn yr holl Lywodraethau wrth ddatblygu blaenoriaethau cyffredin yn y dyfodol.
Roedd y diweddariad cyffredinol ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gyfle imi bwysleisio na ddylai Cymru golli ceiniog na cholli unrhyw bwerau o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Tynnais sylw at yr angen brys am ymgysylltu, gan gynnwys rhannu dogfennau ymgynghori drafft â'r Llywodraethau Datganoledig wrth ddatblygu dyluniad a gweithrediad y Gronfa er mwyn sicrhau bod y setliad datganoli yn cael ei barchu.