Data ar nifer yr anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB gyda dadansoddiadau yn ôl nodweddion buches ar y gyfer Hydref 2018 i Mehefin 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Nifer yr achosion o dwbercwlosis (TB) mewn gwartheg ym Mhrydain Fawr
Mae’r erthygl ystadegol hon yn dangos y data epidemiolegol diweddaraf a gasglwyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) o nifer y gwartheg gafodd eu difa oherwydd rheolau TB. Ers mis Hydref 2018, gwelwyd cynnydd mawr yn y nifer sydd wedi’u difa, gyda mwy yn cael eu difa ym mis Hydref 2018 nag yn unrhyw fis arall.
Prif bwyntiau
Nid un rheswm yn unig sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y gwartheg sydd wedi’u difa i reoli TB. Mae’r sefyllfa’n gymhleth. Mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu pam y cafodd mwy o wartheg nag erioed eu difa ym mis Hydref 2018 a bod y niferoedd wedi para’n uchel oddi ar hynny. Mae rhai o’r ffactorau hyn yn amrywio o fis i fis, mae rhai ohonynt ar gynnydd ac maent i gyd yn effeithio ar y cyfanswm i ryw raddau. Dyma’r ffactorau hynny:
- nifer yr achosion â nifer fawr yn adweithio’n bositif ym mis Hydref 2018
- cynnydd yn y nifer sy’n adweithio i’r prawf gama interfferon
- cynnydd yn nifer y gwartheg godro sy’n cael eu difa
- cyfran fawr o’r anifeiliaid gafodd eu difa yn dod o Ardal TB Uchel y Gorllewin.
Adroddiadau
Dadansoddiad o'r nifer o anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB, Hydref 2018 i Mehefin 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 062 5050
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.