Ken Skates, Minister for Economy and Transport
Mae digwyddiadau diweddar yn y diwydiant dur ledled y DU ac yng Nghymru, gan gynnwys y cynnig i gau safle Cogent Orb Electrical Steels yng Nghasnewydd wedi tynnu sylw at yr heriau a’r pwysau sylweddol sy’n wynebu’r diwydiant ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi brwydro’n ddiflino dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau dyfodol llewyrchus a chynaliadwy i’n diwydiant dur. Hoffwn gadarnhau wrth yr Aelodau bod Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i barhau i frwydro i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant dur ac i gadw gwaith cynhyrchu a swyddi yn y diwydiant yma yng Nghymru.
Mae’r cynnig i gau Orb yn destun pryder sylweddol ac rydym yn parhau i drafod â Tata, ei weithlu ffyddlon ac ymroddedig a’r undebau llafur i ddeall mwy am yr hyn sydd y tu cefn i’r penderfyniad hwn a’r camau posibl nesaf. O ran cymorth uniongyrchol ar gyfer y gweithlu, mae cynlluniau eisoes ar waith drwy ein cynllun ReAct i roi cymorth i’r rhai yr effeithir arnynt gan y cynnig i gau.
Mae dur yn ddiwydiant strategol bwysig sydd wrth wraidd llawer o gadwyni cyflenwi, gan gynnwys y diwydiannau modurol, adeiladu, ynni, nwyddau domestig a phecynnu. Mae’r diwydiant dur ledled Ewrop yn gweithredu mewn amgylchedd heriol tu hwnt gyda gorgapasiti sylweddol yn fyd-eang, prisiau uwch ar ddeunydd crai, marchnadoedd sy’n arafu a mwy o fewnforion.
Ar ben y materion hyn ar draws Ewrop, mae anfanteision ychwanegol yn gwneud sefyllfa gwneuthurwyr dur y DU yn waeth. Yn bennaf ymhlith y rhain mae’r gwahaniaeth mewn prisiau trydan rhwng cwmnïau dur y DU a’r cwmnïau cyfatebol yn Ewrop, sy’n effeithio’n andwyol ar eu gallu i gystadlu’n rhyngwladol a buddsoddi yn eu busnesau. Fis diwethaf, cyhoeddodd corff masnachu’r sector, UK Steel, ei ddadansoddiad blynyddol o brisiau trydan. Mae hwn yn nodi bod gwneuthurwyr dur y DU wedi talu 80% yn fwy na Ffrainc a 62% yn fwy na’r Almaen am eu trydan.
Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU, fel yr ydym wedi bod yn gwneud ers 2016, i roi gwell cefnogaeth i ddiwydiannau sy’n defnyddio llawer o ynni, wrth iddynt wynebu’r sefyllfa eithriadol anodd hon. Mae angen gweithredu nawr os ydym am sicrhau dyfodol
cynaliadwy i’r diwydiant hwn sy’n allweddol i Gymru ac i’r DU.
Mae’r sector hefyd yn wynebu problemau masnach sy’n gysylltiedig â Brexit, yn enwedig pe bai Brexit heb gytundeb. Mae’r rhain yn cynnwys y posibilrwydd o dariffau o 25% ar fewnforion dur i Ewrop a cholli mynediad heb dariffau i farchnadoedd sy’n dod o dan gytundebau masnach rydd ar hyn o bryd. Gallai rhwystrau nad ydynt yn dariffau a rhwystrau gweinyddol i fasnach hefyd achosi problemau i’r sector, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio am y rhain yn gyson ers y refferendwm yn 2016.
Yng nghanol yr ansicrwydd hwn mae perygl gwirioneddol y bydd cwsmeriaid yn chwilio am gyflenwyr eraill. Byddaf i a’m cydweithwyr yn parhau i gydweithio’n agos â’r diwydiant dur i ddeall eu pryderon am fasnachu ac i godi’r materion hyn gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU.
Fe drafodais y materion hyn gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ar 17 Hydref, gan danlinellu mor bwysig yw gweithio gyda Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu’r sector hanfodol hwn yn y DU.
Gofynnais i’r Ysgrifennydd Gwladol drefnu cyfarfod brys rhwng Llywodraeth y DU, y Gweinyddiaethau Datganoledig a’r diwydiant dur, yn debyg i’r Cyngor Dur a gafodd ei gynnull yn 2016 ond sydd heb gael ei gynnal ers mis Mehefin 2018. Rwy’n falch o ddweud bod cyfarfod bellach wedi’i drefnu yn dilyn y cais. Bydd yn cael ei gynnal ar 24 Hydref a byddaf i’n cymryd rhan ar ran Llywodraeth Cymru.
Yn y cyfarfod hwnnw, byddaf yn codi'r materion hyn sy'n allweddol i ddyfodol y sector yng Nghymru.