Daeth yr ymgynghoriad i ben 26 Ionawr 2016.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 270 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym eisiau clywed eich barn am yr opsiynau i ysgogi buddsoddiad mewn twf prosiectau gwyrdd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Twf Gwyrdd Cymru yn mynd i’r afael ag un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu Cymru: sut y gallwn ddod yn wlad fwy llewyrchus mewn modd sy’n amgylcheddol gynaliadwy ac sy’n sicrhau cynhwysiant cymdeithasol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi buddsoddiad yn y maes hwn.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cwmpasu’r opsiynau ar gyfer ysgogi twf o safbwynt:
- effeithlonrwydd adnoddau
- ynni adnewyddadwy gan gynnwys effeithlonrwydd ynni ac
- ynni o brosiectau troi gwastraff yn ynni.
Mae’n ceisio disgrifio’r heriau sy’n bodoli yn y maes hwn megis y bylchau o ran gwybodaeth sut i gael gafael ar gyngor arbenigol a meithrin sgiliau rheoli prosiect y cyllid sydd ar gael a sut i fanteisio arno.
Disgwyliwn y bydd o ddiddordeb mawr i’r sawl sy’n rheoli asedau a chyllid yn y sector cyhoeddus datblygwyr a busnesau sydd ynghlwm wrth gyflenwi prosiectau neu gynlluniau buddsoddwyr a busnesau a diwydiannau sy’n defnyddio llawer iawn o ynni.