Bydd Caernarfon yn lle prysur i Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, dros yr ychydig fisoedd a blynyddoedd nesaf.
Fel rhan o’i gynlluniau uchelgeisiol i wella’r profiad i ymwelwyr ym Mhorth y Brenin a Phorth Mawr yng Nghastell Caernarfon, mae gwaith paratoi a chadwraeth ar fin dechrau ar y safle Treftadaeth y Byd hwn.
Bydd pecyn o dros £5 miliwn, sy’n cynnwys £1 miliwn o gyllid gan Raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Croeso Cymru a ariennir drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), yn golygu y bydd mynediad o’r radd flaenaf i’r gofeb a gwelliannau allweddol eraill i ymwelwyr a fydd yn cyd-fynd ymhellach â’r rhaglen adfywio gyffrous yn y dref, gan helpu i ddenu manteision cymdeithasol ac economaidd hirdymor.
Bydd cynigion Porth y Brenin yn cynnwys:
- Y mynediad gwastad cyntaf erioed mewn unrhyw safle Treftadaeth y Byd tebyg yn y DU drwy lifft gwydrog ysgafn i’r murlfychau uwch
- Datblygu profiadau dychmygus, rhyngweithiol y gellir ymgolli ynddynt
- Gofod unigryw ar gyfer lluniaeth ysgafn a byrbrydau yn y tŵr
- Gwaith cadwraeth sylweddol i’r porth
- Gofod ar gyfer digwyddiadau ac addysg
- Cyfleusterau toiled hygyrch
- Gofod manwerthu gwell a mwy o faint yn ardal Tŵr Porth y Brenin
Bydd mynediad lifft a grisiau newydd hefyd ym Mhorth Mawr i furiau’r dref, dwy fflat foethus newydd a gwaith cadwraeth sylweddol i’r fynedfa allweddol hon i’r dref â mur o’i chwmpas.
Ychwanegodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:
“Dw i wrth fy modd bod y pecynnau cadwraeth a pharatoi pwysig hyn yn digwydd yng Nghaernarfon – gan ddechrau’r daith bwysig i drawsnewid a gwella ein cynnig o’r radd flaenaf. Bydd y ddau ddatblygiad hyn wirioneddol yn chwalu rhwystrau, gan wneud ein safleoedd yn fwy hygyrch, yn fwy perthnasol ac yn fwy pleserus. Mae’n rhaid i ni barhau â’r gwaith o gynyddu mynediad i’r rhai sydd ag anawsterau symudedd.
Bydd y pecyn galluogi 19 wythnos hwn yn y Castell yn cynnwys gwaith archwilio archeolegol pwysig er mwyn paratoi ar gyfer y prif becyn gwaith y flwyddyn nesaf. Bydd y castell ar agor fel arfer yn ystod y gwaith paratoi a chadwraeth gydag ymwelwyr yn cael eu hannog i alw heibio i weld y gwaith sy’n cael ei wneud ar y prosiect cyffrous hwn.
Bydd y gwaith ym Mhorth Mawr yn adeiladu ar y pecyn cychwynnol a gafodd ei gwblhau sawl mis yn ôl i sicrhau amodau priodol ac addas ar gyfer gwaith cadwraeth hanfodol ar gyfer y gofeb.
Gellir prynu tocynnau i ymweld â Chastell Caernarfon ar-lein ar wefan CADW.