Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg
Rwy'n falch o gael cyhoeddi Adroddiad Cyfeirio Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) at y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (dolen allanol).
Mae'r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (FfCE) yn Fframwaith trosfwaol sy'n gyfrwng i gysylltu systemau a fframweithiau cymwysterau gwledydd â'i gilydd. Mae yn gwneud deall, cydnabod a chymharu cymwysterau o wahanol wledydd Ewropeaidd yn haws.
Cafodd y FfCChC ei gyfeirio i'r FfCE am y tro cyntaf yn 2010. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn gweld ailgyfeirio yn broses adolygu barhaus er mwyn cadw'n gyfredol.
Bu ColegauCymru, fel Pwynt Cydlynu Cenedlaethol Cymru i’r FfCE, yn rheolwr prosiect ar yr ymarfer hwn ac is-gontractiwyd y gwaith o ddatblygu'r adroddiad i un o bartneriaid FfCChC, sef Cymwysterau Cymru. Roedd partneriaid eraill FfCChC, Llywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac aelodau o Grŵp Cynghori Rhanddeiliad FfCChC hefyd yn gefnogol i ddatblygiad yr adroddiad.
Wrth ddatblygu'r adroddiad, ymgynghorodd Cymwysterau Cymru yn helaeth â rhanddeiliaid allweddol a chael barn gan arbenigwyr ar y fframwaith cymwysterau rhyngwladol er mwyn casglu tystiolaeth i fodloni'r deng maen prawf cyfeirio. Mae hefyd yn adlewyrchu canfyddiadau adroddiad ansoddol annibynnol FfCChC (2014), a oedd yn dangos cefnogaeth glir gan randdeiliaid i barhau i sicrhau bod FfCChC a'r FfCE yn cyd-fynd â'i gilydd. Cafodd yr adroddiad cyfeirio ei gymeradwyo gan y Grŵp Cynghori FfCE ar 11 Mehefin, ac ymdrinnir â'r pwyntiau yr oedd angen eglurhad arnynt yn y fersiwn gyhoeddedig.
Mae ailgyfeirio wedi rhoi cyfle i ni gynnig gwybodaeth gyfredol sy'n adlewyrchu newidiadau sylweddol i'r maes cymwysterau yng Nghymru, a'r ymwahanu a fu rhwng y systemau addysg yn y Deyrnas Unedig ers 2010. Mae cael adroddiad ailgyfeirio cyfredol yn mynd i helpu unigolion i gymharu eu cymwysterau nhw gyda chymwysterau gwledydd eraill, cefnogi dilyniant a symudedd i Gymru ac o Gymru, ac yn gymorth i economi Cymru allu denu gweithlu medus.