Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, heddiw wedi cadarnhau cynnydd o 5% yng nghyflog cychwynnol athrawon ysgol sydd newydd gymhwyso yng Nghymru, tra bydd cynnydd o 2.75% i isafswm ac uchafswm pob ystod band cyflog a lwfans arall i athrawon.
Eleni yw'r flwyddyn gyntaf i bŵer dros gyflogau ac amodau athrawon gael ei ddatganoli i Gymru. Cynhaliwyd adolygiad o gyflogau athrawon gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, a argymhellodd y dylid cynyddu holl ystodau cyflog a lwfansau statudol 2.4%. Yn ei hymateb, cynigiodd y Gweinidog godiad cyflog uwch ar gyfer y rhan fwyaf o athrawon, o 2.75%.
Hefyd argymhellodd y Corff Adolygu godi’r pwynt tâl isaf ar brif ystod cyflog athrawon o 5%, a dderbyniwyd gan y Gweinidog.
I leihau'r effaith ar awdurdodau lleol, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £12.8 miliwn i gefnogi'r penderfyniad yn y flwyddyn ariannol hon.
Mae'r dyfarniad cyflog yn dilyn ymgynghoriad wyth wythnos a bydd yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Medi 2019.
Dywedodd Kirsty Williams:
Mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw ein bod am wobrwyo ein hathrawon medrus a diwyd yng Nghymru drwy godi eu cyflog.
Mae cyhoeddiad heddiw yn dangos mantais rhoi'r cyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru am y pwerau hyn. Wrth fynd ati am y tro cyntaf i bennu cyflog athrawon, rydym wedi dilyn cwys gwahanol i Loegr drwy sicrhau y bydd cyflog cychwynnol athrawon yng Nghymru yn uwch.
Bydd hyn yn helpu i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn sy'n denu graddedigion a'r rheini sydd am newid gyrfa. Ochr yn ochr â'n diwygiadau i ddysgu proffesiynol, y cwricwlwm a hyfforddiant cychwynnol athrawon, bydd yn helpu i annog yr athrawon o'r safon uchaf i ymuno â'r proffesiwn yma yng Nghymru.