Daeth yr ymgynghoriad i ben 27 Tachwedd 2015.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r y crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 973 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn gofyn am eich safbwyntiau ynghylch yr ychwanegiadau a'r diwygiadau i God Ymarfer Cymru Deddf Iechyd Meddwl 1983.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Adran 118 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi cyhoeddi ac adolygu'n rheolaidd.
Mae'r Cod drafft newydd yn ystyried y newidiadau i'r ddeddfwriaeth berthnasol ers i'r Cod blaenorol gael ei lunio. Yn benodol:
- y gofynion ym Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 o ran cynllunio gofal a thriniaeth a'r ddarpariaeth ehangach o eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol
- y berthynas rhwng y Ddeddf Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Trefniadau Diogelu rhag colli Rhyddid.
O fewn y Cod drafft mae mwy o bwyslais ar y canlynol:
- cynnwys cleifion a lle y bo'n briodol eu teuluoedd a'u gofalwyr ym mhob agwedd ar asesu a thriniaeth
- deall egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a sut y dylent fod yn gymwys i bob gofal a thriniaeth
- cynnwys Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol
- y defnydd o gludiant priodol ar gyfer claf o dan y Ddeddf i amddiffyn ei urddas a sicrhau ei fod yn ddiogel lle y bo'n ymarferol.
Mae 2 fater arall o ran canllawiau arfaethedig yn y Cod drafft nad ydynt wedi'u cynnwys yn y cod presennol.
Yn gyntaf mae'n pwysleisio bod y Ddeddf yn rhoi terfyn o 72 awr ar gyfer cadw rhywun o dan adran 136 ac y dylai asesiadau ddim ond cael eu cynnal mewn gorsaf heddlu dan amgylchiadau eithriadol. Fodd bynnag mewn perthynas ag amseriad asesiadau mewn gorsaf heddlu ac mewn mannau eraill mae'r Cod drafft yn cynnig:
- y dylid eu cynnal o fewn 3 awr
- na ddylid cadw rhywun mewn gorsaf heddlu am fwy na 12 awr.
Yn ail mae'n cynnig y bydd cynllun gofal a thriniaeth statudol os oes angen yn dechrau yn ddim hwyrach na 72 awr ar ôl i rywun gael ei dderbyn.