Cylch gorchwyl
Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.
Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r ymagwedd ysgol-gyfan tuag at les emosiynol ac iechyd meddwl, a hynny fel rhan o'r ymagwedd system-gyfan sydd hefyd yn cydnabod y cysylltiadau rhwng lles meddyliol a lles corfforol. I gyflawni hyn, bydd y Grŵp yn rhoi sylw i argymhellion a chanfyddiadau adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef 'Cadernid Meddwl' (Ebrill 2018). Caiff y Grŵp Gorchwyl a Gorffen gefnogaeth Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid.
Diben
Diben y grŵp yw:
- cynorthwyo gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen drwy ddarparu mewnbwn arbenigol a gwrando ar syniadau wrth i'r rhaglen waith ymagwedd ysgol-gyfan gael ei datblygu a'i gweithredu.
- cysylltu rhwng y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a'r trydydd sector i helpu i bennu a chytuno ar ymagweddau strategol a gweithredol a all gefnogi'r ymagwedd ysgol-gyfan.
- ystyried datrysiadau ymarferol a rhoi cyngor ac argymhellion i Lywodraeth Cymru i gefnogi'r rhaglen waith.
Bydd gwaith y grŵp hwn yn briodol i'r egwyddorion sy'n sail i'r gwaith ar ymagweddau 'ysgol-gyfan' a 'system-gyfan':
- Rhaid i'r cymorth fod yn gyffredinol ac wedi'i dargedu
- Rhaid i'r cymorth fod yn briodol, yn amserol ac yn effeithiol.
- Rhaid i'r cymorth ganolbwyntio ar arferion ataliol, adferol ac ar ymyrraeth effeithiol ac amserol pan fo'i hangen.
- Dylai'r cymorth osgoi meddyginiaethu plant a sicrhau bod anghenion a dymuniadau'r plant a'r bobl ifanc yn hollol ganolog.
Aelodaeth a Strwythur y Grŵp
Bydd y Grŵp yn cwrdd 3 gwaith y flwyddyn, gan ddilyn yr un amserlen â'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Os bydd angen, gall gwrdd yn fwy aml na hynny i fwrw ymlaen â gweithgareddau neu waith penodol. Gellir ffurfio is-bwyllgorau gyda chytundeb y grŵp cyfan, er mwyn canolbwyntio ar waith penodol. Mae'r cyfyngiad amser ar y grŵp, a bydd yn rhedeg tan ddiwedd tymor y Cynulliad (Mai 2021).
Ruth Conway, Dirprwy Gyfarwyddwr – Isadran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru, fydd yn cadeirio. Darperir cymorth ysgrifenyddiaeth gan Lywodraeth Cymru.
Mewnbwn y tu hwnt i gyfarfodydd
Y tu allan i gyfarfodydd, ymgysylltir a rhoddir mewnbwn gan y Grŵp yn electronig. Gellir ymgysylltu â phwll mwy o randdeiliaid yn electronig a bwydo'u sylwadau'n ôl i'r Grŵp eu hystyried fel sy'n briodol.
Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Ieuenctid
Mae'r Grŵp yn bodoli ar y cyd â'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Ieuenctid, a fydd yn cwrdd ar yr un amserlen ac yn ystyried agenda tebyg. Caiff cofnodion cyfarfodydd y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Ieuenctid ei ddarparu i aelodau'r Grŵp hwn os gofynnir amdanynt.
Cyfrinachedd
Anogir aelodau'r Grŵp i fanteisio ar y sefydliad neu'r sector y maent yn ei gynrychioli gan geisio adborth ar faterion polisi ac arferion fel sail i'r ymagwedd ysgol-gyfan.
Fodd bynnag, bydd disgwyl ichi drin gwybodaeth a geir drwy'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid yn gyfrinachol a rhannu pethau'n gyfyngedig iawn.
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn hysbysu aelodau'r Grŵp am unrhyw wybodaeth gyfrinachol na ellir ei rhannu y tu allan i'r Grŵp.