Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi penodi Rhodri Williams yn Gadeirydd newydd Cymru ar gyfer y Cyngor Defnyddwyr Dŵr.
Mae gan Rhodri brofiad helaeth yn gweithio mewn nifer o swyddogaethau gweithredol ac anweithredol o fewn y sector cyhoeddus a phreifat ac mae ar hyn o bryd yn Aelod o Fwrdd anweithredol S4C. Cyn hynny, Rhodri oedd Cyfarwyddwr cyntaf Ofcom yng Nghymru, ble yr oedd yn allweddol wrth gydweithio â'r Llywodraeth ar bob lefel i helpu i sicrhau bod defnyddwyr yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn derbyn band eang cyflym a gwasanaethau teleffoni symudol.
Mae y Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn gorff annibynnol, statudol, sydd â'r brif swyddogaeth o gynrychioli safbwyntiau cwsmeriaid dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr. Mae'n cynnig cyngor a gwybodaeth ar faterion sy'n gysylltiedig â dŵr, yn edrych i mewn i gwynion ac yn helpu i sicrhau bod cwsmeriaid presennol a chwsmeriaid yn y dyfodol yn cael gwerth am arian a gwasanaeth o safon.
Dywedodd y Gweinidog, Lesley Griffiths:
Mae rôl Cyngor Defnyddwyr Dŵr Cymru a gwaith ei Fwrdd yn hynod bwysig ac mae’n bleser cael cyhoeddi penodiad Rhodri fel Cadeirydd Cymru. Daw Rhodri â phrofiad helaeth o weithio mewn nifer o swyddogaethau proffil uchel yn y sectorau preifat a chyhoeddus, yn ogystal â dealltwriaeth dda iawn o gynrychioli buddiannau cwsmeriaid yn ei hen swydd fel Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru.
Meddai Rhodri Williams,
Rydym oll yn dibynnu ar ddŵr o ran ein hiechyd a’n llesiant cyffredinol. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i sicrhau bod y cwmnïau dŵr yng Nghymru’n darparu gwasanaethau eithriadol ar gyfer defnyddwyr am bris y gallwn oll ei fforddio. Rwy’n bwriadu sicrhau bod cwsmeriaid yng Nghymru’n derbyn mwy am eu harian wrth i ni gyrraedd wythnosau olaf adolygiad 2019 o brisiau. Byddaf yn gwrando ar yr hyn sydd gan ddefnyddwyr ar draws Cymru ei ddweud am yr hyn sy’n ofynnol er mwyn gwella’r agweddau hynny ar wasanaethau’r cwmnïau dŵr sy’n peri’r pryder mwyaf iddynt.