Daeth yr ymgynghoriad i ben 20 Tachwedd 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 510 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Ymgynghoriad i ystyried a fyddai newidiadau i'r Rheoliadau yn fuddiol ar gyfer defnyddio a rheoli slyri a silwair yn ymarferol ac yn effeithlon.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010 (SSOTA) yn rhan annatod o’r fframwaith rheoleiddio yng Nghymru sydd wedi’i fwriadu i sicrhau bod ansawdd a swm y dŵr yr ydym yn dibynnu arno am gymaint o agweddau ar ein bywydau yn ddigonol. Mae hefyd yn amcanu at ddefnydd effeithlon o wrteithiau ac felly at lai o golledion ariannol i ffermwyr trwy gyfyngu ar y ddibyniaeth ar wrteithiau gwneuthuredig costus. Mae’r Rheoliadau trwy hybu defnydd effeithlon o adnoddau hefyd yn cyfrannu at gyflawni ein rhwymedigaethau fel y’u nodir mewn nifer o Gyfarwyddebau Ewropeaidd.
Cafodd y Rheoliadau SSOTA eu gwneud gyntaf ym 1991 ac nid ydynt wedi newid mewn unrhyw ffordd sylweddol ers hynny ond eto mae arferion ffermio wedi esblygu’n sylweddol. Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod Rheoliadau’n addas ar gyfer arferion ffermio heddiw ac felly nod yr ymgynghoriad hwn yw diweddaru’r Rheoliadau lle y bo’n fuddiol heb gynyddu’r baich rheoleiddiol.
Nod yr ymgynghoriad hwn yw ystyried a fyddai newidiadau i’r Rheoliadau SSOTA yn fuddiol ar gyfer defnyddio a rheoli slyri a silwair yn ymarferol ac yn effeithlon.