Mae Cymru ar fin dod yn un o arweinwyr y byd ym maes technoleg 5G, ar ôl i Ganolfan Rhagoriaeth Ddigidol gael ei chyhoeddi, a fydd yn derbyn cyllid gwerth £4 miliwn gan yr UE.
Bydd y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Prosesu Signalau Digidol yn gwneud ymchwil arbenigol iawn i systemau cyfathrebu digidol fel ffonau symudol, hybiau WiFi a llinellau gweithgynhyrchu modern. Mae gwella Prosesu Signalau Digidol yn ffordd gost-effeithiol o gyflymu rhwydweithiau, gan wella'r ffordd mae ffonau symudol, dyfeisiau a phensaernïaeth rhwydwaith yn gweithio'n sylweddol.
Bydd y Ganolfan Ragoriaeth yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio’r dechnoleg ffeibr bresennol yn y rhwydwaith 5G i wella capasiti, hyblygrwydd, ymarferoldeb a gwasanaethau.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am gyllid gan yr UE yng Nghymru:
"Mae systemau digidol y gellir eu haddasu, wedi'u teilwra at ddibenion y defnyddiwr, yn hanfodol yn yr oes sydd ohoni lle mae amser mor brin, ac maen nhw'n hanfodol ar gyfer datblygu ein gwlad wrth inni hybu cynhyrchiant economi Cymru.
"Mae'r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Prosesu Signalau Digidol wrth galon y gwaith arloesol yn y sector hwn, sy'n hanfodol i'r economi, ac mae'n rhoi Prifysgol Bangor ar frig y diwydiant ymchwil TGCh. Bydd cydweithio rhwng yr academyddion gorau o Gymru a sefydliadau byd-eang, cwmnïau rhyngwladol uchel eu proffil a busnesau bach a chanolig yng Nghymru a'r DU, yn arwain at ymchwil o'r radd flaenaf, a fydd yn ei thro yn arwain at atebion blaengar i hyrwyddo'r economi 5G o amgylch y byd.
"Mae cyllid gan yr UE yn parhau i ysgogi cynnydd ym maes ymchwil a datblygu, gwyddoniaeth, y seilwaith a'r sgiliau yng Nghymru, yn ogystal â hyrwyddo twf economaidd a chreu swyddi newydd. Rydyn ni wedi bod yn glir ein bod am i'r cyllid hwn barhau, i alluogi Cymru i barhau i arwain ymchwil i systemau technoleg newydd sy'n gallu rhedeg ar ffynonellau pŵer isel, ac i weithio tuag at Gymru sy'n fwy cyfartal, yn fwy ffyniannus ac yn wyrddach."
Yn ogystal â'r cyllid gan yr UE, mae Prifysgol Bangor yn arwain y prosiect drwy gyfrannu £1,672,984 o gyllid, gyda chyllid ychwanegol o £349,262 oddi wrth bartneriaid yn y sector preifat.
Dywedodd Yr Athro Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol Bangor:
"Mae hyn yn enghraifft wych o'r ymchwil ragorol sy'n cael ei gwneud yn ein Prifysgol. Mae'n dangos sut mae ymchwil gan academyddion o fri rhyngwladol yn bwydo i arloesi ac yn cyfrannu at yr effaith economaidd ar y byd ehangach o'n cwmpas. Yn benodol, mae'r Ganolfan Ragoriaeth yn sicrhau bod arloesi a chydweithio wrth galon ei gwaith. Gyda phartneriaid academaidd a sefydliadau o Gymru a gweddill y byd, mae gan y Ganolfan Ragoriaeth y potensial i greu "ardal economaidd ar gyfer Prosesu Signalau Digidol" ar hyd yr A55 a fydd yn dod â manteision a fydd yn trawsnewid economi Gogledd Cymru."