Wrth i’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb gychwyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd i helpu plant ysgol yng Nghymru a’u hathrawon i adnabod ac ymateb yn well i eiriau o gasineb a gwybodaeth anghywir, a sicrhau bod ysgolion yn meithrin dinasyddion egwyddorol a gwybodus sy'n cyfrannu at gymdeithas gydlynus.
Heddiw (dydd Iau 17 Hydref) cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Jane Hutt £350,000 ar gyfer prosiect Troseddau Casineb mewn Ysgolion a fydd yn cael ei gyflawni gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Mae cynnydd wedi bod yn nifer yr adroddiadau am droseddau casineb bob blwyddyn ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Fframwaith Mynd i'r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb yn 2014. Mae’r prosiect Troseddau Casineb mewn Ysgolion yn cael ei gyllido gan Gronfa Bontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru ac mae’n rhan o becyn o gefnogaeth ychwanegol sy’n cael ei ddarparu yn ystod y 18 mis nesaf er mwyn helpu gydag atal achosion o droseddau casineb yng Nghymru, a lleihau eu heffaith ar ddioddefwyr a chymunedau.
Bydd CLlLC yn gweithio gyda phartneriaid arbenigol i ymweld ag ysgolion ar hyd a lled y wlad i annog meddwl yn feirniadol a herio mythau mae'r plant wedi’u clywed o bosib. Bydd hyn yn cael ei wneud mewn tua 100 o ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd 2019/2020.
Dywedodd Jane Hutt,
Gyda’n gilydd rydyn ni’n gweithio i greu cymdeithas gref ac amrywiol yma yng Nghymru, lle gwelir gwerth mewn pobl o bob hil neu ffydd am eu cymeriad a’u gweithredoedd. Rydyn ni i gyd eisiau helpu i greu gwlad heddychlon a chytûn lle gall ein plant ni a chenedlaethau’r dyfodol ffynnu.
“Rydyn ni’n gobeithio y gall y prosiect yma gefnogi ein plant a’n pobl ifanc ni i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a fydd yn eu galluogi i gwestiynu unrhyw naratif llawn casineb sy’n dod ar eu traws. Hefyd bydd y prosiect yn arfogi staff ysgolion â’r sgiliau i herio troseddau casineb a chefnogi dioddefwyr pan fydd yn digwydd mewn ysgolion.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Llefarydd CLlLC ar Addysg:
Rydyn ni’n croesawu’r cyllid hwn yn fawr iawn. Bydd yn rhoi cefnogaeth werthfawr i ysgolion ac, yn bwysig iawn, i fyfyrwyr i roi arweiniad a chymorth, ac i herio ac atal achosion o droseddau casineb yn ein hysgolion. Bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu’r rhaglen hon, ac yn gwneud hynny wrth ochr y gwaith da sydd eisoes yn digwydd drwy awdurdodau ac ysgolion, gan geisio targedu’r cymunedau a’r ysgolion sydd fwyaf angen cefnogaeth.
Mae’r cyllid sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn gam cadarnhaol i’r cyfeiriad cywir, yn addysgu pobl ifanc ac yn newid ffyrdd o feddwl o’r cychwyn cyntaf. Wrth gwrs, ni fydd y newid hwn yn digwydd dros nos, felly bydd angen i ni barhau i gynnig cymorth a chefnogaeth i’r dioddefwyr hynny sy’n profi troseddau casineb nawr. Mae’r Ganolfan Genedlaethol Cymorth ac Adrodd ar Droseddau Casineb yn ddarparwr blaenllaw o’r cymorth hwn, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyngor a chymorth i bawb sy’n dioddef trosedd gasineb.
Heddiw bydd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit yn cyfarfod staff o’r ganolfan a chynrychiolwyr sefydliadau sy’n cynrychioli’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd gasineb. Y nod yw gweld sut mae Cyllid Pontio’r UE Llywodraeth Cymru yn helpu i ddatblygu darpariaeth y Ganolfan, a thrafod beth arall sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â’r troseddau hyn.
Bydd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit ar gael i’w cyfweld yn y ganolfan.