Daeth yr ymgynghoriad i ben 14 Hydref 2015.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r y crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 305 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn rhoi'r cyfle i randdeiliaid ar hyd a lled Cymru gynnig eu sylwadau ar y ddwy set hyn o reoliadau.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Cafodd y rheoliadau drafft eu datblygu drwy broses ymgynghori â'n prif randdeiliaid. Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn am agweddau penodol:
- Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015
- Rheoliadau Gofal a Chymorth (Darparu Gwasanaethau Iechyd) (Cymru) 2015.
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015
Bydd y rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd dros dro ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion unigolion yn eu hardaloedd pan fydd darparwyr gofal yn methu â pharhau i gynnal eu busnes.
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Darparu Gwasanaethau Iechyd) (Cymru) 2015
Mae'r rheoliadau hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol drefnu i ddarparu llety ynghyd â gofal a ddarperir gan nyrs gofrestredig. Mae angen cael caniatâd y corff iechyd priodol yng nghyntaf.