Mae dau fusnes o Gymru wedi manteisio i’r eithaf ar gymorth Cymru Iach ar Waith i wella iechyd meddwl a llesiant eu staff.
Mae clwb y tu allan i oriau ysgol Summerhouse, yn Sir Ddinbych, a chwmni tynnu asbestos Monolithic Environmental Services Ltd, yng Nghastell-nedd Port Talbot, wedi cael cymorth a chyngor gan raglen Cymru Iach ar Waith a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'i darparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r rhaglen yn cefnogi cyflogwyr, unigolion ac ystod o weithwyr iechyd proffesiynol.
Nod Cymru Iach ar Waith yw helpu pobl o oedran gweithio yng Nghymru i gadw'n heini ac yn iach fel y gallant aros yn y gwaith neu ddychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o salwch. Lleihau effaith anhwylderau meddyliol a chyhyrysgerbydol yw dau o nodau allweddol y rhaglen Cymru Iach ar Waith.
Mae clwb y tu allan i oriau ysgol Summerhouse, a gafodd Wobr Arian Iechyd y Gweithle Bach, Cymru Iach ar Waith, wedi bod yn hyrwyddo gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd llesiant pobl eraill, gan dderbyn cydnabyddiaeth am hyn gan rieni a gweithwyr proffesiynol eraill.
Mae’r busnes, sy'n darparu gwasanaeth gofal dydd a gofal ar ôl ysgol yn y Rhyl ac yn cyflogi saith aelod o staff, wedi cael cyngor gan raglen Cymru Iach ar Waith ynglŷn ag adolygu a chryfhau polisïau drwy ymweliadau wyneb yn wyneb a chymorth dros y ffôn.
Dywedodd Mandy Dickin, rheolwr meithrinfa clwb y tu allan i oriau ysgol Summerhouse:
"Mae cymryd rhan yn y cynllun Gwobrau Cymru Iach ar Waith wedi ein helpu i weithio'n well fel tîm ac wedi rhoi gwell dealltwriaeth inni o bwysigrwydd llesiant ein gilydd. Yn bersonol, mae hefyd wedi rhoi dealltwriaeth imi o ffynhonnell gwybodaeth a dysg arall yn fy mywyd proffesiynol.
Cafodd Monolithic Environmental Services Ltd Wobr Efydd Iechyd y Gweithle Bach, Cymru Iach ar Waith, am bennu rheolwr i roi systemau a gweithgareddau iechyd a llesiant ar waith, trefnu cyrsiau hyfforddiant mewnol yn ymwneud â materion iechyd a llesiant, a sefydlu llinell gymorth fewnol yn y cwmni.
Diolch i gyngor ac arweiniad Cymru Iach ar Waith, mae'r cwmni wedi gallu meithrin gweithlu mwy positif a brwdfrydig, ac ymdeimlad cyffredinol o iechyd a llesiant ymysg y gweithwyr.
Dywedodd Christopher Richards, prif archwilydd Monolithic Environmental Services Ltd:
"Roedd yr Ymarferydd Cymru Iach ar Waith o gymorth mawr inni, gan roi nifer o argymhellion fel sut i wella ein polisïau rheoli straen, dim smygu, a llesiant, a chynnal asesiad risg iechyd a diogelwch llawn yn ein prif swyddfa. Mae pob un o'r goruchwylwyr a'r rheolwyr hefyd wedi cael lle ar gwrs cymorth cyntaf iechyd meddwl.
Yn dilyn araith yn y Gynhadledd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Llesiant 2019, yng Nghaerdydd, dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae clwb y tu allan i'r ysgol Summerhouse a Monolithic Environmental Services Ltd yn enghreifftiau ardderchog o fusnesau sydd wedi gweithredu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a llesiant eu staff.
"Yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni, mae'n hanfodol bod gennym bolisïau ar waith sy'n helpu pobl Cymru i gadw'n heini, yn iach ac mewn gwaith, ac mae Cymru Iach ar Waith yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i gyflawni hynny. Rwy'n annog busnesau o bob maint i gymryd rhan yn y rhaglen ac edrych ar eu polisïau a'u diwylliant cyfredol i sicrhau bod eu gweithle yn cefnogi pobl gyda'r materion hyn.
"Mae digwyddiadau fel y Gynhadledd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl heddiw hefyd yn hanfodol o ran codi ymwybyddiaeth bellach ac roedd yn bleser gennyf siarad am sut yr ydym ni fel Llywodraeth yn benderfynol o weld Cymru iachach, fwy ffyniannus a mwy gwydn.
Mae'r Gynhadledd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019 wedi'i threfnu i ddod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynghyd ac annog gwaith partneriaeth o ran strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru. Cafodd ei threfnu gan y fenter gymdeithasol gofrestredig GovConnect.