Daeth yr ymgynghoriad i ben 1 Hydref 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 123 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae mynediad i'r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden yn rhan allweddol o'n polisi adnoddau naturiol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Dylai pawb gael y cyfle i fwynhau parciau coetiroedd mynyddoedd a’r arfordir drwy gymryd rhan mewn amryfal weithgareddau. Mae gweithgareddau hamdden yn yr awyr agored yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i Gymru. Mae iddynt nifer o fanteision o ran iechyd a’r amgylchedd ac maent yn fanteisiol hefyd yn gymdeithasol ac yn economaidd.
Hoffem glywed eich barn am y materion a ganlyn:
- ffyrdd o fynd ati i leihau’r costau a’r beichiau sy’n gysylltiedig â gweinyddu llwybrau cyhoeddus a mynediad ehangach
- sut y gallem ddiwallu ein hanghenion hamdden presennol a’r anghenion a fydd gennym yn y dyfodol
- ffyrdd o fynd i’r afael â’r anawsterau ymarferol sy’n gysylltiedig â gwella cyfleoedd i bawb nid dim ond y bobl hynny sy’n gallu fforddio teithio neu’r bobl hynny sydd eisoes yn frwdfrydig dros weithgarwch penodol.