Daeth yr ymgynghoriad i ben 23 Medi 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion ac ymateb y Llywodraeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 608 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Cynigion ar gyfer rheoliadau newydd i amddiffyn yr amgylchedd ac eiddo rhag gollyngiadau o storfeydd olew.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith dŵr (2000/60/EC) yn ei gwneud yn nod bod pob corff dŵr o safon ecolegol dda erbyn 2027. Mae datrys problem llygredd gwasgaredig yn ganolog i hyn. Olew yw un o’r prif gyfryngau llygru dŵr yng Nghymru ac yn aml daw’r llygredd o olew sy’n gollwng o gyfleusterau storio annigonol.
Mae’r rheoliadau drafft yn gosod safonau ar gyfer cyfleusterau storio olew. Eu nod yw rhwystro olew rhag gollwng a rhag llygru dŵr a niweidio tir ac eiddo. Y prif ofyn yw darparu ail lefel o ddiogelwch i rwystro unrhyw ollyngiadau rhag dianc o gyfleuster storio olew i’r amgylchedd ehangach. Bydd yr holl ofynion hyn yn effeithio ar bob storfa olew newydd o’r dyddiad y daw’r rheoliadau hyn i rym sef yn fras dechrau 2016.
Ni fydd gofyn i gyfleuster storio olew domestig gydymffurfio tan ei fod yn cael ei gyfnewid am un newydd. Bydd gofyn i gyfleusterau sy’n gwasanaethu eiddo annomestig gydymffurfio rhwng dwy a phedair blynedd yn ddiweddarach gan ddibynnu ar faint y perygl i’r amgylchedd.
Rydym yn cynnig cynnwys hefyd gyfleusterau storio olew tanwydd amaethyddol yn y rheoliadau newydd. Maen nhw’n dod o dan Reoliadau Silwair Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol 2010 ar hyn o bryd. Byddai hynny’n sicrhau mai’r un safonau fydd ar gyfer pob storfa olew yng Nghymru a bydd yn codi eithriad sy’n bod ar gyfer storfeydd o’r math a wnaed cyn 1991.
Mae rheoliadau tebyg eisoes yn bod yn yr Alban Lloegr a Gogledd Iwerddon.