Mark Drakeford AC, Y Prif Weinidog
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU.
O ganlyniad i argyfwng Brexit, mae cryn amheuaeth ynglŷn â pharhad y Deyrnas Unedig fel cynghrair wirfoddol o bedair cenedl. Ni fu’r Undeb erioed o dan y fath straen yn ystod fy oes i.
Os am sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r Deyrnas Unedig, mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod angen diwygio ei sefydliadau, ei phrosesau a’i diwylliant.
Mae’r ddogfen bolisi hon yn nodi barn Llywodraeth Cymru ar y diwygiadau sydd eu hangen i sicrhau bod gan yr Undeb ddyfodol cynaliadwy.
Rwy’n bwriadu gwneud datganiad i’r Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU ar 15 Hydref.