Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Ym mis Gorffennaf 2018, lansiodd fy rhagflaenydd Lesley Griffiths AC a oedd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y pryd, 'Gais am Dystiolaeth' i geisio barn ar sut i wella'r ffordd y cyflawnir y gofynion o ran tai a nodir mewn Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau). Roedd hyn mewn ymateb i'r safbwynt o ran cyflenwi tai a'r cyflenwad o dir ar draws Cymru, ynghyd â’r pryderon a fynegwyd gan awdurdodau cynllunio lleol a chymunedau ynghylch ceisiadau cynllunio preswyl tybiannol.
Mae'r 'Cais am Dystiolaeth' wedi hoelio sylw ar y ffaith nad yw llawer o’r CDLlau a fabwysiadwyd yn cyflenwi nifer y cartrefi newydd sy'n ofynnol, oherwydd nid yw'r safleoedd a ddyrannwyd ar gyfer y cartrefi hyn yn cael eu cynnig i'w datblygu neu eu bod yn cael yn datblygu yn arafach na'r disgwyl. Roedd y 'Cais am Dystiolaeth' hefyd wedi edrych ar y mater perthnasol o ran mesur y cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai a’r berthynas rhwng hyn a'r ffordd y caiff CDLlau eu monitro.
Mae dadansoddiad manwl o'r ymatebion i'r 'Cais am Dystiolaeth' wedi cadarnhau nad yw'r fframwaith polisi presennol ar gyfer cyflenwi tai na'r mecanwaith monitro cysylltiedig yn cyd-fynd yn ddigonol â phroses CDLlau. Felly, gan ystyried y newidiadau sydd eisoes wedi'u gwneud i Bolisi Cynllunio Cymru a'r rhai arfaethedig yn argraffiad newydd y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu, rwy'n cynnig diwygio'r polisi i sicrhau bod tai yn cael eu cyflenwi yn ogystal â’r canllawiau a'r cyngor ar y mecanwaith monitro cysylltiedig.
Heddiw, rwy'n dechrau ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i adran Cyflenwi Tai Polisi Cynllunio Cymru. Mae'r newidiadau yn cael gwared ar y polisi cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai ac yn rhoi yn ei le ddatganiad polisi sy'n egluro y bydd y taflwybr tai yn sail ar gyfer monitro'r ffordd y caiff gofynion tai cynlluniau datblygu eu cyflawni fel rhan o Adroddiadau Monitro Blynyddol. Ystyriaf y byddai'r dull hwn yn sicrhau bod y ffordd y caiff tai eu cyflenwi, gan gynnwys yr ymateb i dangyflenwi, yn rhan annatod o'r broses o fonitro ac adolygu cynllun datblygu.
O ganlyniad i'r newid arfaethedig hwn i'r polisi, byddai TAN 1 sy'n darparu'r fethodoleg ar gyfer cyfrifo'r cyflenwad pum mlynedd o dir sydd ar gael ar gyfer tai yn cael ei ddirymu. Byddai hefyd yn ofynnol i'r diwygiadau i'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu ddarparu canllawiau ychwanegol ar y broses o fonitro yn unol â'r taflwybr tai.
O ystyried y newidiadau arfaethedig i Bolisi Cynllunio Cymru a'r canllawiau a'r cyngor cysylltiedig, hoffwn gadarnhau bod y penderfyniad i ddatgymhwyso paragraff 6.2 o TAN 1 yn dal i barhau. Bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i ystyried ceisiadau ar gyfer datblygiadau preswyl a elwir i mewn neu a benderfynir ar apêl, yn unol â'r egwyddorion creu lleoedd a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru a phob ystyriaeth berthnasol arall.
Rwy'n annog unrhyw randdeiliad sydd â diddordeb mewn cynyddu’r cyflenwad o dai er mwyn diwallu anghenion cymunedau ledled Cymru i ymateb i’r ymgynghoriad hwn.