Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ynglŷn â sut i gael contractau Llywodraeth Cymru a thelerau rhoi contractau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Byddwn yn gwario tua £675 miliwn y flwyddyn yn prynu nwyddau, gwasanaethau, gwaith, TGCh ac offer/gwasanaethau digidol.

Ein nod yw gwario’r buddsoddiad sylweddol hwn mewn ffordd sy’n sicrhau’r gwerth gorau am arian i Gymru. Rydym hefyd yn dymuno symleiddio'r broses gynnig ar gyfer cyflenwyr.

Ein blaenoriaethau caffael

Mae gweithgarwch caffael Llywodraeth Cymru yn ategu ein hamcanion llesiant. Dyma ein blaenoriaethau:

Dylai darpar gyflenwyr fod yn ymwybodol o’r canlynol hefyd:

Sut rydym yn dyfarnu ein contractau

Rydym yn defnyddio GwerthwchiGymru i hysbysebu ein holl gontractau sy’n werth mwy na £25,000.

Rhaid i gyflenwyr sydd am wneud busnes gyda ni gofrestru ar GwerthwchiGymru.

Ar ôl cofrestru gallwch weld ein hysbysiadau contract cyfredol.

Rydym yn cyhoeddi ein hysbysiadau contract caffael a manylion dyfarnu contractau

eGaffael

Rydym yn defnyddio eDendroCymru i gynnal prosesau caffael contractau sy’n werth mwy na £25,000.

Mae eDendroCymru:

  • yn cynnig mynediad cyfleus i gyflenwyr at ddogfennau tendro
  • yn cynnig dull diogel o ddychwelyd tendrau
  • yn cynnig proses dryloyw ar gyfer codi ymholiadau yn ystod y broses dendro.

Amdanom ni

Mae trosolwg o’n timau ar gael yma.

Gallwch ganfod enghreifftiau o’n gwaith ar ein tudalen astudiaethau achos.

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau drwy gofrestru i gael ein cylchlythyr, neu drwy ein dilyn ar LinkedIn neu X (Twitter gynt).

Darllenwch sut rydw i'n rheoli'ch data yn ein hysbysiad preifatrwydd.